Pont Gludo
Oddi ar Wicipedia
Pont Gludo (neu Bont Lwyfan) yw pont uchel iawn yw pontydd cludo, gyda ffrâm uchel yn gadael i'r llongau talaf basio o danynt. Mae cerddwyr a cherbydau'n teithio ar draws yr afon mewn basged crog mawr neu gondala sy'n hongian gerfydd rhaffau dur trwchus o brif drawst y ffrâm. Y bont gyntaf o'r math yma oedd Pont Vizcaya yn Portugalete, Gwlad y Basg, Sbaen, a adeiladwyd yn 1893 ac a gynlluniwyd gan Alberto Palacio. Enwyd y bont yma yn Safle Treftadaeth y byd yn 2006.
Dim ond rhyw ugain o'r pontydd hyn a godwyd erioed, ac o'r rheini dim ond rhyw chwech sy'n dal i gael eu defnyddio. Ceir un o'r rhain yng Nghymru, Pont Gludo Casnewydd, yn croesi Afon Wysg yn ninas Casnewydd yn y sir Fynwy hanesyddol, a agorwyd yn 1906. Mae nifer o luniau o'r bont ar wefan Casglu'r Tlysau.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.