Paso de Indios
Oddi ar Wicipedia
Tref fechan yn nhalaith Chubut ym Mhatagonia yn yr Ariannin yw Paso de Indios. Yr enw Cymraeg yn nyddiau cynnar y Wladfa oedd Rhyd yr Indiaid. Mae'n brif dref yn departmento o'r un enw. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,087.
Cysylltir Paso de Indios a dinasoedd Trelew ac Esquel gan y briffordd RN 25. Y sefydliad cyntaf yn yr ardal oedd Manantiales. Rhoddwyd yr enw "Paso de Indios" i fan ar Afon Camwy rhyw 12 km o Manantiales gan y criw fu'n fforio'r ardal dan Luis Jorge Fontana, a groesodd yr afon yma ar 4 Tachwedd 1885. Ceir disgrifiad o'r fan gan Eluned Morgan yn 1899.