Ocapi
Oddi ar Wicipedia
Ocapi | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Okapia johnstoni (P. L. Sclater, 1901) |
Anifail sydd yn perthyn i'r un teulu â'r jiraffod yw'r Okapi. Maen nhw'n byw yn y fforestydd glaw o gwmpas Afon Congo, sydd yng ngogledd-ddwyrain Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo. Doedd neb ond pobl leol yn wybod am yr Okapi cyn 1901.
Mae corff yr Okapi yn frown tywyll gyda streipiau llorwedd gwyn ar ei goesau a ffurff ei gorff yn debyg i'r jiráff, heblaw am ei wddw sydd ddim mor hir. Fel y jiraff mae ganddynt dafod glas hir i stripio dail o goed. Mae'r Okapi yn bwyta glaswellt, rhedyn, ffrwythau a ffyngau hefyd. Mae tafod yr Okapi yn digon hir i sychu ei llygaid ei hyn. Mae gan yr Okapi gwrywaidd gyrn byr â chroen arnynt.
Mae corff yr Okapi tua 2m i 2.5m (7-8 troeddfedd) o hyd ac ei ysgwyddau tua 1.5m i 2m (5-6 troeddfedd) uwch. Maen nhw tua 200-250kg (465-550 pwysau) trwm.
Mae Okapi yn anifeiliau y nos a maen nhw'n byw ar eu bennau eu hynain. Does dim ond un ifanc ar y pryd yn geni ar ôl beichiogrwydd sydd yn parhau am 421 i 457 dyddiau. Mae'r ifainc tua 16kg (35 pwysau) trwm ac yn cael eu nyrsio am tua 10 mis. Ar ôl 4 neu 5 o flynyddoedd maen nhw'n oedolion.
Does dim perygl arnynt, ond mae eu cynefin yn cael ei dinistrio ac yn mynd yn llai. Mae problemau ar gyfer herwhela, hefyd. Gwaith cadwraeth yn y Congo mae'n cynnwys astwdiaeth bywyd yr Okapi ac ers 1992 oes gwarchodfa iddynt. Beth bynnag, roedd mewnrhyfel y Congo yn perygl i'r bywyd gwyllt yr ardal yn ogystal a'r pobl sydd yn gweithio ar gyfer cadwraeth.
Enwyd y rhywogaeth (johnstoni) ar ôl Syr Harry Johnston. Roedd e'n arweinio'r alldaith i'r Fforest Ituri ble mae'r Okapi yn byw ac yn dod yn ôl o'r ardal a'r sbesimen gwyddonol cyntaf.