Mynydd Rhiw
Oddi ar Wicipedia
Mynydd isel neu fryn yn ne-orllewin Llŷn, Gwynedd, yw Mynydd Rhiw. Gorwedd ei gopa 305 medr i fyny.
Gorwedd Mynydd Rhiw ar arfordir de-orllewin penrhyn Llŷn, tua hanner ffordd rhwng Aberdaron ac Abersoch. Wrth droed y mynydd i'r de ceir pentref Rhiw gyda phlasdy enwog Plas-yn-Rhiw gerllaw. Disgyn llethrau'r mynydd yn bur serth i'r môr ym mhen gorllewinol Porth Neigwl, a cheir golygfeydd da dros y bae hwnnw o'r llethrau uchaf.
Ceir mast radar ar gopa Mynydd Rhiw, ond er hynny mae rhan helaeth y mynydd yn eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn dirlun arbennig o hardd.
Cyfeiria'r bardd R. S. Thomas at y mynydd yn ei lyfrau Blwyddyn yn Llŷn a Neb.
Ceir lwybrau i ben y mynydd o sawl pwynt, yn cynnwys pentref Rhiw.