Hugh Laurie
Oddi ar Wicipedia
Actor, digrifwr ac ysgrifennwr Seisnig yw James Hugh Calum Laurie OBE (ganwyd 11 Mehefin 1959), a adnabwyd yn well fel Hugh Laurie. Adnabwyd yn y Deyrnas Unedig, Iwerddon, Awstralia, Seland Newydd a rhannau o Ewrop am ei rannau yn Blackadder ac am ei gydweithrediad comedi â Stephen Fry, sydd wedi cynnwys A Bit of Fry and Laurie a Jeeves and Wooster. Yn yr Unol Daleithiau a Chanada, adnabwyd gorau am chwarae'r Dr Gregory House yn y ddrama feddygol House.