Grŵp ethnig
Oddi ar Wicipedia
Criw o bobl sy'n uniaethu â'i gilydd yw grŵp ethnig (lluosog grwpiau ethnig). Fel arfer adnabyddir grŵp ethnig hefyd gan y ffaith bod ei aelodau yn wahanol i bobl eraill (o grwpiau ethnig eraill). Gall y ffactorau sy'n creu ac yn gwahaniaethu grwpiau ethnig gynnwys hil, cenedl, iaith neu grefydd.