Ewtroffigedd
Oddi ar Wicipedia
Mae ewtroffigedd yn broses sydd yn peryglu nifer o rywogaethau o anifeiliaid ledled y byd. Bydd glaw yn golchi gwrtaith a ddefnyddir mewn ffermydd i fewn i afonydd, nentydd a llynnoedd lleol a bydd presenoldeb y cemegion hyn yn berygl bywyd i'r rhywogaethau o fewn y cyrff dwr. Bydd cemegion yn y gwrtaith yn peri tyfiant algâu yn y dŵr, a bydd y tyfiant mawr o algâu a welir yn arwain at lefelau ocsigen peryglus o isel. Canlyniad hyn fydd marwolaeth nifer o bysgod a phlanhigion.