Web Analytics

We provide Linux to the World

ON AMAZON:



https://www.amazon.com/Voice-Desert-Valerio-Stefano-ebook/dp/B0CJLZ2QY5/



https://www.amazon.it/dp/B0CT9YL557

We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) - Wicipedia

Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)

Oddi ar Wicipedia

Ieuan Glan Geirionydd
Ieuan Glan Geirionydd
Am bobl eraill o'r un enw, gweler Evan Evans (gwahaniaethu).

Bardd, emynydd, ac offeiriad oedd Evan Evans, sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Ieuan Glan Geirionydd (20 Ebrill, 1795, Trefriw - 21 Ionawr, 1855, Y Rhyl). Yr oedd y beirniad Saunders Lewis yn ei ystyried yn un o feirdd mwyaf y traddodiad clasurol Cymraeg ac yn olynydd teilwng i Goronwy Owen, er bod Ieuan yn canu'n bennaf ar y mesurau rhydd, oherwydd ei ofal am ffurf ac iaith a'r Stoiciaeth sy'n elfen mor amlwg yn ei gerddi.

Taflen Cynnwys

[golygu] Ei fywyd

Ganwyd Evans Evans yn Nhanycelyn, Trefriw, ar lan Afon Geirionydd. Methodistiaid oedd ei rieni, ond cafodd Ieuan ei urdo yn offeiriad Anglicanaidd pan dyfodd i fyny.

Cafodd y bardd ei addysg ganolradd yn Ysgol Rad Llanrwst. Ar ôl i'r ysgol fod yn gau ac i'r adeilad ddechrau dadfeilio, cyfansoddodd un o'i gerddi mwyaf adnabyddus yn galaru'r ysgol a'i hen ffrindiau. Dyma un bennill:

Mae sŵn y gloch yn ddistaw,
Heb dorf yn dod o'r dre',
A bolltau'th ddorau cedyrn
Yn rhydu yn eu lle;
Ystlum â'u mud ehediad
Sy'n gwau eu hwyrdrwm hynt
Lle pyncid cerddi Homer
A Virgil geinber gynt.[1]

Cadwodd ysgol yn Nhal-y-bont, Dyffryn Conwy, yn 1816 cyn symud i ddinas Caer fel is-olygydd ar y cylchgrawn Goleuad Gwynedd. Cylchgrawn Anglicanaidd oedd y Goleuad, a daeth Ieuan yn aelod o'r eglwys honno a chafodd ei urddo'n offeiriad yn Eglwys Loegr yn 1826. Gwasanaethodd fel curad ym mhlwyfi Esgobaeth Caer cyn ymddeol yn 1852 a dychwelyd i fyw yn Nhrefriw lle arosodd am weddill ei oes.

[golygu] Ei waith llenyddol

Clasuriaeth delynegol gydag arlliw Rhamantaidd sy'n nodweddu cerddi rhydd Ieuan. Gyda John Blackwell (Alun), ef yw arloeswr y canu rhydd telynegol yng Nghymru ac un o'i feistri mawr. Ymhlith ei gerddi mwyaf adnabyddus mae 'Ysgoldy Rad Llanrwst' (gweler uchod), 'Caniad y Gog i Arfon', 'Cyflafan Morfa Rhuddlan' a 'Glan Geirionydd'. Elfen arall sy'n amlwg yn y cerddi hyn yw dylanwad y canu penillion traddodiadol, ac mae'r cyfuniad o glasuriaeth a Stoiciaeth ar y naill law a'r ymwybod o ganu traddodiadol y werin ar y llaw arall yn rhoi i'w waith ansawdd arbennig.

Canodd ar y mesurau caeth hefyd, ac er bod rhai o'i gynigion eisteddfodol yn drwm dan ddylanwad ieithwedd a ffugeiriau William Owen Pughe, mae'r goreuon, fel y cywydd 'I'r Bedd', yn gerddi gorchestol.

Ysgrifenodd nifer o emynau yn ogystal, yn cynnwys 'Ar lan Iorddonen ddofn', sy'n cael ei cyfrif ymhlith y gorau yn yr iaith Gymraeg.

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg.

[golygu] Llyfryddiaeth

Golygwyd casgliad anghyflawn o gerddi a rhyddiaith y bardd gan Richard Parry (Gwalchmai) yn y gyfrol Geirionydd (Rhuthun, 1862). Ceir detholiad wedi'i olygu gan Saunders Lewis, gyda rhagymadrodd, yn:

  • Saunders Lewis, Detholion o waith Ieuan Glan Geirionydd (Caerdydd, 1931)
Static Wikipedia 2008 (March - no images)

aa - ab - als - am - an - ang - ar - arc - as - bar - bat_smg - bi - bug - bxr - cho - co - cr - csb - cv - cy - eo - es - et - eu - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - frp - fur - fy - ga - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - jbo - jv - ka - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - ms - mt - mus - my - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nn - -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -
https://www.classicistranieri.it - https://www.ebooksgratis.com - https://www.gutenbergaustralia.com - https://www.englishwikipedia.com - https://www.wikipediazim.com - https://www.wikisourcezim.com - https://www.projectgutenberg.net - https://www.projectgutenberg.es - https://www.radioascolto.com - https://www.debitoformativo.it - https://www.wikipediaforschools.org - https://www.projectgutenbergzim.com