Einir Dafydd
Oddi ar Wicipedia
Einir Dafydd | |
---|---|
[[Delwedd:]] | |
Gwybodaeth Cefndirol | |
Enw Genedigol | Einir Dafydd |
Lle Geni | Boncath, Sir Benfro |
Galwedigaeth(au) | Cantores, cyfansoddwraig |
Offeryn(au) Cerddorol | Llais |
Blynyddoedd | 2006 – |
Label(i) Recordio | Fflach |
Gwefan | einirdafydd.com |
Cantores yw Einir Dafydd (ganwyd 9 Mai 1989 yn Hwlffordd, Sir Benfro), sydd fwyaf enwog am ennill y drydedd gyfres o WawFfactor ar S4C, ac ennill Cân i Gymru 2007 gyda'i chân Blwyddyn Mas.
Dechreuodd Einir Dafydd ar ei gyrfa gerddorol fel y prif leisydd yn y band Garej Dolwen, ond daeth i amlygrwydd am y tro cyntaf wedi iddi ennill cystadleuaeth WawFfactor ar S4C ym Mawrth 2006, a hynny wedi iddi gyfareddu miloedd o wylwyr S4C gyda’i llais swynol a’i dawn naturiol o berfformio.
Roedd ennill “WawFfactor” yn drobwynt pwysig iawn yn ei gyrfa, gan iddo agor sawl drws i bob math o gyfleon. Yn ystod y flwyddyn honno, cafodd y cyfle i ymddangos droeon ar y teledu ar raglenni fel Uned 5, Wedi 7, Noson Lawen a Planed Plant.
Ym Mehefin 2006, rhyddhawyd CD cyntaf Einir gan S4C sef Y Garreg Las oedd yn cynnwys tair cân a fideo, “Y Garreg Las” gan Ryland Teifi, “Fel Bod Gatre’n Ol” gan Caryl Parry Jones a Christian Phillips, a fersiwn arbennig o “W Capten” gan Eliffant.
Cafwyd noson i lansio’r CD newydd yn Theatr y Gromlech, Crymych yng nghwmni Elen Pencwm, Ryland Teifi a Caryl Parry Jones. Darlledwyd yn fyw o'r noson gan Terwyn Davies ar gyfer rhaglen C2 ar BBC Radio Cymru.
Wedi blwyddyn tu-hwnt o brysur, ym mis Rhagfyr 2006 – cafodd Einir y profiad o rannu llwyfan gyda Bryn Fôn a Bryn Terfel yng nghyngerdd Nadolig Llangollen a ddarlledwyd ar S4C.
Ym mis Mawrth 2007, daeth Einir i’r brig yng nghystadleuaeth Can i Gymru gyda chân hyfryd o’r enw “Blwyddyn Mas” - yr alaw wedi'i chyfansoddi ganddi, a’r Prifardd Ceri Wyn Jones yn gyfrifol am y geiriau.
Dathlodd ei phen-blwydd yn 18 oed ym mis Mai 2007 ac yna bu’n brysur iawn yn y stiwdio yn cynhyrchu CD newydd gyda’r cynhyrchydd profiadol, Myfyr Isaac. Rhyddhawyd Ffeindia Fi yn ystod yr haf y flwyddyn honno ar label Rasp, sy’n rhan o gwmni recordio Fflach yn Aberteifi. Roedd yr EP yn cynnwys 6 o ganeuon - dwy gân gan Caryl Parry Jones sef “Gwerth y Byd” a “Sibrydion ar y Gwynt”; “Eira Cynnes” a “Blwyddyn Mas” o waith Einir ei hun a Ceri Wyn Jones, a dwy gân gan Ryland Teifi sef “Bachgen Wyt Ti” a’r ddeuawd hyfryd a ganwyd gan y ddau ar raglen C2: Yn y Ciwb ar BBC Radio Cymru, Ffeindia Fi.
[golygu] Disgograffi
[golygu] EP
- Y Garreg Las, 2006, (Fflach)
- Ffeindia Fi, 2007, (Fflach)
[golygu] Cysylltiadau allanol
- Einir yn ennill Wawffactor, S4C
- Einir yn ennill, BBC