Castell Aberlleiniog
Oddi ar Wicipedia
Castell mwnt a beili Normanaidd ym Mhenmon, Môn, yw Castell Aberlleiniog. Mae'n gorwedd ar ben bryn coediog isel hanner milltir o lan Afon Menai ac yn gwarchod y mynedfa iddi o'r dwyrain.
Codwyd y castell gan Huw, Iarll Caer, yn y flwyddyn 1088 fel rhan o ymgais Normaniaid Caer i oresgyn teyrnas Gwynedd. Pan ddychwelodd Gruffudd ap Cynan o Ddulyn yn 1094 casglodd fyddin yn Nefyn ac yna hwyliodd i Benmon ac ymosododd ar y castell yn llwyddianus. Amddiffynwyd y castell gan 80 o farchogion ac 14 ysgwier ifainc. Cipiwyd y castell a'i losgi a lladdwyd nifer o'r amddiffynwyr. Cofnodir y digwyddiad yn Hanes Gruffudd ap Cynan.
Ar hyn o bryd mae gwaith archaeolegol yn cymryd lle ar y safle.
[golygu] Cyfeiriadau
- A.D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982). Tud. 42.
- D. Simon Evans (gol.), Historia Gruffud vab Kenan (Caerdydd, 1977). Tud. 20-21.