Calvados
Oddi ar Wicipedia
Un o départements Ffrainc, yn rhanbarth Basse-Normandie yng ngogledd y wlad ar lan Môr Udd, yw Calvados. Ei phrifddinas weinyddol yw Caen. Yn ogystal â Môr Udd, mae Calvados yn ffinio â départements Manche, Orne, ac Eure. Gorwedd ar Gwlff Calvados.
Mae'r prif drefi yn cynnwys:
- Bayeux (cartref Brodwaith Bayeux)
- Caen
- Lisieux
- Vire