Manche
Oddi ar Wicipedia
Un o départements Ffrainc, yn rhanbarth Basse-Normandie yng ngogledd-orllewin y wlad ar lan Môr Udd, yw Manche. Daw ei enw o'r ffaith ei fod yn gorwedd ar lan Le Manche (Môr Udd). Ei phrifddinas weinyddol yw Saint-Lô. Yn ogystal â Môr Udd, mae Calvados yn ffinio â départements Ffrengig Calvados, Orne, a Mayenne, ac Ille-et-Vilaine yn Llydaw. Mae'n ffurfio gorynys sy'n ymestyn allan i'r sianel. Mae Ynysoedd y Sianel i'r gorllewin.
Mae'r prif drefi yn cynnwys:
- Avranches
- Cherbourg
- Coutances
- Saint-Lô