Boris Pasternak
Oddi ar Wicipedia
Llenor a bardd Rwseg oedd Boris Leonidovich Pasternak (Rwseg Борис Леонидович Пастернак) (29 Ionawr / 10 Chwefror 1890 – 30 Mai 1960). Fe'i hadnabyddir yn y Gorllewin fwyaf am ei nofel drasig Doctor Zhivago (1957). Yn Rwsia ei hun, fodd bynnag, fe'i hadnabyddir fel bardd yn bennaf. Dadleuir mai Moya sestra — zhizn ('Fy chwaer, bywyd'), a ysgrifennodd yn 1917, yw'r casgliad barddoniaeth mwyaf dylanwadol a gyhoeddwyd yn Rwseg yn yr ugeinfed ganrif. Enillodd Wobr Llenyddiaeth Nobel ym 1958, ond ni allodd ei derbyn am resymau gwleidyddol.