Bedřich Smetana
Oddi ar Wicipedia
Cyfansoddwr o wlad Tsiec oedd Bedřich Smetana ( ynganiad ?/i ) (2 Mawrth 1824 - 12 Mai 1884). Ei waith mwyaf adnabyddus yw'r gerdd symffonig Ma Vlast ("Fy ngwlad").
Ganed ef yn Litomyšl, Bohemia, yr adeg honno yn rhan o Ymerodraeth Awstria. Bu'n astudio'r piano a'r feiolin er yn ieuanc, ac aeth i astudio cerddoriaeth ym Mhrâg. Yn 1848 cafodd arian gan Franz Liszt i sefydlu ei ysgol gerddoriaeth ei hun.
Yn 1856, symudodd i Gothenburg, Sweden, lle bu'n dysgu a rhoi perfformiadau. Agorodd ysgol gerddoriaeth newydd ym Mhrâg yn 1863, ac yn 1866 cyhoeddodd ei opear gomig Y briodasferch a gyfnewidiwyd. Erbyn 1874 roedd wedi mynd yn fyddar. Parhaodd i gyfansoddi; ysgrifennodd Má vlast wedi iddo fynd yn fyddar. Yn 1875 symudodd i bentref Jabkenice. Bu farw yn 1885 a chladdwyd ef ym mynwent Vyšehrad ym Mhrâg.
Cafodd ei waith ddylanwad mawr ar Antonín Dvořák.