Web Analytics

We provide Linux to the World

ON AMAZON:



https://www.amazon.com/Voice-Desert-Valerio-Stefano-ebook/dp/B0CJLZ2QY5/



https://www.amazon.it/dp/B0CT9YL557

We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Bardd Teulu - Wicipedia

Bardd Teulu

Oddi ar Wicipedia

Aelod o ddosbarth arbennig o feirdd o fewn Cyfundrefn y Beirdd yng Nghymru'r Oesoedd Canol oedd y Bardd Teulu. Roedd ganddo fraint a dyletswyddau neilltuol yn ôl Cyfraith Hywel fel aelod o lys y brenin ac fel bardd 'teulu' (gosgordd filwrol) y brenin hwnnw.

Roedd yn un o'r Pedwar Swyddog ar Ugain yn llys y brenin ac yn cael ei gyfrif yn wythfed yn rheng y swyddogion hynny. Roedd yn eistedd gyda'r Penteulu ym mhen isaf y neuadd gydag aelodau dethol o'r osgordd o gwmpas drws y neuadd. Dalai ei dir yn rhydd a rhoddid iddo farch a dillad brethyn gan y brenin a dillad llian gan y frenhines. Roedd y Penteulu yn fod i roi iddo ei delyn yn ei law yn y Tair Gŵyl Arbennig (uchelwyliau'r Nadolig, y Pasg a'r Sulgwyn), a byddai'n cael dillad gan y Distain ar yr achlysuron hynny hefyd. Canai ar ôl y pencerdd, ar destun llai ffurfiol. Pe bai'r frenhines yn dymuno gwrando cerdd, byddai'r bardd teulu yn mynd ati ac yn canu iddi yn ddistaw o'r neilltu. Dylai gael talbwrdd o ifori morfil gan y brenin a modrwy aur gan y frenhines. Cysgai yn stafell y Penteulu yn y neuadd. Gwerth ei sarhad oedd chwe buwch a chweugain darn o arian.[1]

Ei ddyletswydd oedd canu i'r 'Teulu' a'i ddiddanu. Roedd ganddo hawl i gael buwch neu ych o anrhaith y Teulu, ar ôl i'r brenin gael ei draean: disgwylid iddo ganu cerdd arbennig 'Unbennaeth Prydain' mewn diolch. Roedd dan nawdd (amddiffyn) y Penteulu.[2] Fe'i cysylltir â'r englyn yn draddodiadol.

Credir fod Aneirin yn fath o Fardd Teulu i osgordd Mynyddog Mwynfawr. Erbyn yr Oesoedd Canol mae'n debygol nad oedd y rhaniad pendant yn y llyfrau Cyfraith mor amlwg. Canai Cynddelw Brydydd Mawr fel pencerdd a bardd teulu, er enghraifft. Ar un adeg roedd ysgolheigion yn dadlau fod yr awdl yn perthyn i'r pencerdd tra bod yr englyn yn fwy priodol i ganu'r Bardd Teulu.

Weithiau defnyddir y term 'bardd teulu' i gyfeirio at rai o Feirdd yr Uchelwyr, yn yr Oesoedd Canol Diweddar a dechrau'r Cyfnod Modern, a oedd yn perthyn i aelwyd arbennig hefyd, ond tenau yw'r cysylltiad â'r Bardd Teulu hynafol. Ystyrir Siôn Dafydd Las (m. 1694), "bardd teulu" plas Nannau ym Meirionnydd, yn un o'r olaf o'r beirdd hyn.

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Llyfr Iorwerth, gol. Aled Rhys William (Caerdydd, 1960, 1979), pennod 13 et seq.
  2. Llyfr Iorwerth, pennod 13.
Static Wikipedia 2008 (March - no images)

aa - ab - als - am - an - ang - ar - arc - as - bar - bat_smg - bi - bug - bxr - cho - co - cr - csb - cv - cy - eo - es - et - eu - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - frp - fur - fy - ga - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - jbo - jv - ka - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - ms - mt - mus - my - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nn - -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -
https://www.classicistranieri.it - https://www.ebooksgratis.com - https://www.gutenbergaustralia.com - https://www.englishwikipedia.com - https://www.wikipediazim.com - https://www.wikisourcezim.com - https://www.projectgutenberg.net - https://www.projectgutenberg.es - https://www.radioascolto.com - https://www.debitoformativo.it - https://www.wikipediaforschools.org - https://www.projectgutenbergzim.com