Anthony Hopkins
Oddi ar Wicipedia
Actor Cymreig ydy Syr Philip Anthony Hopkins CBE (ganwyd 31 Rhagfyr 1937), sy'n adnabyddus am ymddangos mewn nifer o ffilmiau llwyddianus. Mae wedi ennill nifer o wobrau am ei berfformiadau megis Gwobr Academi, Gwobr Golden Globe a Gwobr Emmy.
[golygu] Cefndir
Ganwyd Anthony Hopkins ym Margam, ym Mhort Talbot. Ei rieni yw Richard a Muriel Hopkins. Mynychodd Goleg Cerdd a Drama Caerdydd a gwariodd dwy flynedd yn y fyddin, cyn mynychu RADA yn Llundain. Ar ôl degawd ar y llwyfan actiodd yn y ffilm The Lion in Winter a dechreuodd ar yrfa llwyddiannus iawn ym myd ffilmiau.
Mae wedi priodi tair gwaith. Mae ganddo un ferch, o'r enw Abigail Hopkins. Santa Monica, Califfornia yw ei gartref presennol, ac mae wedi bod yn ddinesydd Americanaidd ers 12 Ebrill 2000. Mae'n gyn-alcoholig sydd heb yfed ers 1975.