Ymerodraeth y Mughal
Oddi ar Wicipedia
Ymerodraeth fu'n rheoli rhan helaeth o India a'r gwledydd cyfagos o ddechrau'r 16eg ganrif hyd ganol y 19eg ganrif oedd Ymerodraeth y Mughal (Wrdw:مغلیہ سلطنت, Muġalīh Sulṭanat).
Roedd brenhinllin y Mughal yn wreiddiol o darddiad Twrcig o ganolbarth Asia. Sefydlwyd yr ymerodraeth gan Babur, disgynnydd i Genghis Khan a Timur. Yn 1526, gorchfygodd Babur yr olaf o Swltaniaid Delhi, Ibrahim Shah Lodi, ym Mrwydr Gyntaf Panipat. Olynwyd Babur gan ei fab Humayun yn 1530, ond collodd ef lawer o'r tiriogaethau a enillwyd gan ei dad. Cyrhaeddodd yr ymerodraeth ei hanterth yn ystod teyrnasiad mab Humayun, Akbar Fawr, a ddaeth i'r orsedd yn 1556. Dilynwyd ef gan ei fab Jahangir, 1605–1627, yna gan Shah Jahan, a adeiladodd y Taj Mahal yn Agra fel beddrod i'w wraig Mumtaz Mahal,
Dechreuodd ei grym edwino wedi marwolaeth Aurangzeb yn 1707, er iddi barhau am ganrif a hanner arall. Dim ond dinas Delhi ei hun oedd ym meddiant yr ymerawdwr olaf, Bahadur Shah II, a'r rhan fwyaf o weddill y wlad ym meddiant Prydain. Yn dilyn Gwrthryfel India 1857, diorseddwyd Bahadur Shah gan yr awdurdodau Prydeinig, ac alltudiwyd ef; bu farw'n fuan wedyn.