Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Ariannin
Oddi ar Wicipedia
Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Ariannin sy'n cynrychioli yr Ariannin mewn gemau rhyngwladol. Gelwir hwy wrth y llysenw Los Pumas.
Yr Ariannin yw'r cryfaf o'r timau rygbi'r undeb ar gyfandir America, er nad ydynt ar hyn o bryd yn chwarae mewn unrhyw bencampwriaeth flynyddol megis Pencampwriaeth y Tair Gwlad neu Bencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Chwaraeodd Ariannin eu gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn tîm Ynysoedd Prydain yn 1910. Maent yn cystadlu yng Nghwpan Rygbi'r Byd, ac yn y gystadleuaeth yma yn 2007 yn Ffrainc cawsant gryn llwyddiant. Yn gêm gyntaf y gystadleuaeth, gorchfygasant Ffrainc, cyn curo yr Alban 19-13 i gyrraedd y rownd gyn-derfynol. Collasant 37-13 i Dde Affrica, a aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth, ond sicrhaodd buddugoliaeth arall yn erbyn Ffrainc eu bod yn gorffen yn drydydd yn y gystadleuaeth.