Web Analytics

We provide Linux to the World

ON AMAZON:



https://www.amazon.com/Voice-Desert-Valerio-Stefano-ebook/dp/B0CJLZ2QY5/



https://www.amazon.it/dp/B0CT9YL557

We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Roger Casement - Wicipedia

Roger Casement

Oddi ar Wicipedia

Roger Casement
Roger Casement

Cenedlaetholwr Gwyddelig oedd Roger David Casement (Gwyddeleg: Ruairí Mac Easmainn) (1 Medi 18643 Awst 1916).

Ganed Casement yn ninas Dulyn. Protestant oedd ei dad, ond Catholig oedd ei fam, a dywedir iddi hi drefnu i'w ail-fedyddio yn eglwys Gatholig y Rhyl pan oedd yn dair oed. Roedd ei rieni ill dau wedi marw erbyn iddo gyrraedd deg oed.

Aeth Casement i Affrica yn 1883 pan oedd yn 19 oed. Yn y Congo, bu'n gweithio i nifer o gwmniau, yn cynnwys yr Association Internationale Africaine a sefydlwyd gan Leopold II, brenin Gwlad Belg. Cyfarfu a Henry Morton Stanley a Joseph Conrad tra'r oedd yno.

Pan adawodd Casement y Congo,aeth i weithio dros Swyddfa Drefedigaethol y Deyrnas Gyfunol yn Nigeria. Yn 1895 daeth yn gonswl Prydeinig yn Lourenço Marques (yn awr Maputo). Yn 1892 dychwelodd i'r Congo a dod yn gonswl Prydeinig yno. Rhoddodd gyhoeddusrwydd i'r modd yr oedd y brodorion yn cael eu camdrin gan system Leopold II o waith gorfodol. Yn 1903, gofynodd y Senedd iddo ymchwilio i'r mater. Cyhoeddwyd ei adroddiad yn 1904, a chafodd effaith fawr ar y farn gyhoeddus. Yn 1906 gyrrwyd ef i Dde America, a daeth yn gonswl yn Rio de Janeiro. Tra yno, tynnodd sylw at gamdriniaeth brodorion Periw gan y Peruvian Amazon Company Prydeinig, oedd yn gweithredu system debyg i gaethwasiaeth ar gyfer cynhyrchu rwber. Gwnaed ef yn farchog am ei waith yn 1911.

Yn 1912 gadawodd y gwasanaeth trefedigaethol, a daeth yn aelod o'r Irish Volunteers dan Eoin MacNeill. Pan oedd Gwrthryfel y Pasg yn cael ei baratoi, aeth i'r Almaen i geisio cefnogaeth. Ni chafodd lawer o lwyddiant, ond gyrrodd yr Almaenwyr long, yr Aud Norge, yn cario arfau i Iwerddon. Wedi i'r llong hwylio, aed a Casement i Iwerddon mewn llong danfor a'i ollwng ar draeth Banna yn Swydd Kerry. Dymunai Casement atal y gwrthryfel, gan nad oedd wedi cael digon o gefnogaeth iddo fedru llwyddo. Cymerwyd ef yn garcharor yn fuan wedi iddo lanio.

Rhoddwyd ef ar ei brawf yn Llundain am deyrnfradwriaeth, a dedfrydwyd ef i farwolaeth. Roedd ganddo nifer o gefnogwyr amlwg, yn cynnwys George Bernard Shaw ac Arthur Conan Doyle, ond llwyddodd y llywodraeth Brydeinig i leihau y gefnogaeth iddo trwy gyhoeddi ei ddyddiaduron personol. Roedd y rhain yn dangos fod Casement yn gyfunrywiol gyda hoffder o fechgyn cynharol ieuainc, rhywbeth hollol annerbyniol yn y cyfnod. Mae rhai wedi awgrymu fod y rhannau yma yn y dyddiaduron wedi eu ffugio gan y llywodraeth.

Crogwyd Casement yn ngharchar Pentonville yn Llundain ar 3 Awst, 1916, a chladdwyd ef o fewn y carchar. Yn 1965, dychwelwyd ei gorff i Iwerddon, a'i gladdu ym Mynwent Glasnevin.

Static Wikipedia 2008 (March - no images)

aa - ab - als - am - an - ang - ar - arc - as - bar - bat_smg - bi - bug - bxr - cho - co - cr - csb - cv - cy - eo - es - et - eu - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - frp - fur - fy - ga - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - jbo - jv - ka - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - ms - mt - mus - my - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nn - -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -
https://www.classicistranieri.it - https://www.ebooksgratis.com - https://www.gutenbergaustralia.com - https://www.englishwikipedia.com - https://www.wikipediazim.com - https://www.wikisourcezim.com - https://www.projectgutenberg.net - https://www.projectgutenberg.es - https://www.radioascolto.com - https://www.debitoformativo.it - https://www.wikipediaforschools.org - https://www.projectgutenbergzim.com