Richard Avent
Oddi ar Wicipedia
Archaeolegydd a gwas sifil oedd John Richard Avent (13 Gorffennaf, 1948 - 2 Awst, 2006). Cafodd ei eni yn Cookham a graddiodd yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd yn 1970. Treuliodd gyfnod fel Arolygydd Henebion i'r Swyddfa Gymreig ac yn 1984 daeth yn brif arolygwr Cadw. Bu'n gymrawd o Gymdeithas Hynafiaethau Cymru yn 1979 a daeth yn Llywydd Cymdeithas Archaeolegol Cambria yn 2006.
Bu farw ynghyd â'i fab Rhydian mewn damwain nofio ger ynys Gozo, Malta.
Ymhlith ei gyhoeddiadau mae Cestyll Tywysogion Gwynedd (Caerdydd, 1983).
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.