Web Analytics

We provide Linux to the World

ON AMAZON:



https://www.amazon.com/Voice-Desert-Valerio-Stefano-ebook/dp/B0CJLZ2QY5/



https://www.amazon.it/dp/B0CT9YL557

We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Sgwrs Categori:Pobl yn ôl ardal neu fro yng Nghymru - Wicipedia

Sgwrs Categori:Pobl yn ôl ardal neu fro yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia

[golygu] Archif

Dyma'r drafodaeth ar 'Categori:Cymry yn ôl sir' (dileuwyd) a arweiniodd at greu'r categori hwn:

Dwi'n meddwl dylem ni newid hyn i "Pobl yn ôl sir yng Nghymru" a'i roi yn Categori:Demograffeg Cymru. Dylem ddilyn trefn gyffelyb am wledydd eraill yn ogystal am y rheswm nad yw'r ffaith fod rhywun yn cael ei eni mewn tref neu ddinas yng Nghymru yn eu gwneud yn Gymry (cf. Dafydd Wigley, a aned ym Manceinion etc....). Rwan di'r amser i wneud o - gwaith deg munud efallai - cyn i'r categoriau dyfu. Anatiomaros 20:06, 29 Tachwedd 2007 (UTC)

Pwynt arall. Gan fod siroedd / awdurdodau unedol presennol Cymru yn aml wedi newid ffiniau neu'n greadigaethau newydd, dwi'n teimlo efallai ei fod yn syniad da categoreiddio pobl yn ôl bro neu ardal. Dwi ddim isio i ni gael "Pobl o Sir Feirionnydd/Sir Gaernarfon", fel sy gynnon nhw ar y wiki Saesneg yn lle "Pobl o Wynedd", ond mae "Pobl o Feirionnydd/Arfon/Eifionydd/Llŷn" yn gwneud synnwyr yn nhermau hanes, diwylliant a daearyddiaeth (gellid rhoi'r categoriau hyn yng nghategoriau'r siroedd presennol wedyn, yn ogystal). Buasai hynny'n osgoi llawer o bethau chwithig fel disgrifio rhywun a aned yn Nyffryn Conwy yn yr Oesoedd Canol fel "Pobl o fwrdeisdref sirol Conwy". Unrhyw sylwadau? Anatiomaros 20:20, 29 Tachwedd 2007 (UTC)

Awgrymiadau synhwyrol iawn. Dwi 'di newid y categorïau o fewn gweddill y categorïau "yn ôl dinas" i, er enghraifft, "Demograffeg Awstralia" yn lle "Awstraliaid". Mae'n bwysig cadw cysondeb o fewn y system gategoreiddio, a byddai'n fodlon helpu newid enw'r categori hwn. --Adam (Sgwrs) 23:48, 29 Tachwedd 2007 (UTC)
Diolch am yr ymateb a'r gwaith categoreiddio, Adam; anghofiais ychwanegu fod hyn yn egwyddor gyffredinol hefyd. Ond yn ôl at Gymru. Yr unig rhanbarth sy'n creu anhawsterau yw siroedd Dinbych, Fflint, Wrecsam, a dwy ran Conwy - yr hen Glwyd, fwy neu lai. Dwi'n awgrymu hyn am y gweddill (nodaf enw'r siroedd presennol hefyd):
Pobl o Ynys Môn (dim problem fan 'na!)
Pobl o Arfon / Eifionydd / Lŷn / Feirionnydd (Gwynedd)
Pobl o Geredigion (=y sir hefyd, wrth gwrs)
Pobl o (Sir) Benfro (? "o Benfro" yn hytrach nag "o Sir Benfro"?)
Pobl o Sir Gaerfyrddin (does modd osgoi hynny ac mae'n gyfleus)
Pobl o Forgannwg (=yr hen Forgannwg fwy neu lai =awdurdodau presennol yr ardal)
Pobl o Went (de-ddwyrain = Sir Fynwy, Casnewydd etc)
Pobl o Frycheiniog / Faesyfed / Faldwyn (yr hen siroedd, fwy neu lai, ond heb y "sir" = Powys)
Conwy a'r hen Glwyd sy'n creu'r broblem felly. Efallai mai defnyddio'r hen sir Clwyd di'r peth gorau. Mae'r Clwyd newydd, diolch i ryw was sifil anwybodus yn Llundain - yn dadwneud 1500 mlynedd o hanes trwy ymestyn Clwyd i gynnwys Dyffryn Conwy a thraean da o Eryri (Tryfan yn rhan o Glwyd!?). Efallai taw Pobl o Ddyffryn Conwy ac o'r Creuddyn di'r gorau; mae hynny'n gadael gogledd Arllechwedd Uchaf ond fel brodor dwi ddim yn meindio os cawn ein cynnwys gydag Arfon. Ond manion di hynny, cawn ni gyfle i feddwl amdano eto.
Wrth gwrs mae'r categoriau "yn ôl dinas neu dref" yn iawn - mond i neu beidio creu gormod o rai bychain - a bydd yn hawdd eu ffitio i mewn i'r drefn gyffredinol. Dwi ddim yn bwriadu gwneud hyn i gyd dros nos, dim ond wrth fynd ymlaen, ond dwi'n meddwl eu bod yn bwysig ein bod yn sefydlu canllaw (copï a phastio hyn yn Sgwrs y categori newydd, yn un peth, cyn dileu'r categori yma). O ie, enw'r categori? Beth am "Pobl yn ôl ardal a bro..."? Hoffwn glywed os oes gen ti neu unrhyw un arall sylwadau am hyn. Anatiomaros 20:01, 30 Tachwedd 2007 (UTC)
ON Mae hyn yn gategori digon hyblyg i gynnwys pethau mwy lleol. E.e. os di rhywun yn gweld angen "Pobl o Benllyn" (sy'n fro naturiol gyda digon o enwogion) mae lle i wneud hynny hefyd. Anatiomaros 20:05, 30 Tachwedd 2007 (UTC)

Rhoddwyd yma gan Anatiomaros 15:20, 6 Rhagfyr 2007 (UTC)

Static Wikipedia 2008 (March - no images)

aa - ab - als - am - an - ang - ar - arc - as - bar - bat_smg - bi - bug - bxr - cho - co - cr - csb - cv - cy - eo - es - et - eu - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - frp - fur - fy - ga - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - jbo - jv - ka - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - ms - mt - mus - my - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nn - -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -
https://www.classicistranieri.it - https://www.ebooksgratis.com - https://www.gutenbergaustralia.com - https://www.englishwikipedia.com - https://www.wikipediazim.com - https://www.wikisourcezim.com - https://www.projectgutenberg.net - https://www.projectgutenberg.es - https://www.radioascolto.com - https://www.debitoformativo.it - https://www.wikipediaforschools.org - https://www.projectgutenbergzim.com