Pen-blwydd
Oddi ar Wicipedia
Diwrnod sydd nifer union o flynyddoedd ar ôl digwyddiad neilltuol yw pen-blwydd – hynny yw, mae'r un diwrnod o'r flwyddyn â'r ddigwyddiad. Yn aml, diwrnod geni person yw'r achlsysur dan sylw.
[golygu] Pen-blwydd geni person
Mewn sawl diwylliant, cynhelir dathliad ar ben-blwydd genedigaeth person. Ceir bartis, rhoddir anrhegion ac yn y blaen. Mae'n bosib mai defod Mithras oedd tarddiad yr arfer o ddathlu pen-blwydd yn Ewrop, ac i'r syniad cael ei ledaenu gan luoedd yr Ymerodraeth Rufeinig. Ond ni ddethlir pen-blwyddi unigolion gan bawb ymhob ddiwylliant o bell ffordd.
[golygu] Pen-blwyddi eraill
Mae sawl math arall o ben-blwydd yn cael eu coffáu (nid eu dathlu o reidrwydd):
- Priodas - yn enwedig felly ar ôl 25 mlynedd (priodas Arian), 40 mlynedd (Rhuddem), neu 50 mlynedd (Aur)
- Dyddiad sefydlu gwladwriaeth neu fudiad.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.