Michael Sheen
Oddi ar Wicipedia
Actor Cymreig yw Michael Sheen (ganwyd 5 Chwefror, 1969), mae'n debyg ei fod yn fwyaf adnabyddus am ei bortreadau o Tony Blair yn y ffilmiau a gyfarwyddwyd gan Stephen Frears, The Deal a The Queen.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Bygraffiad
[golygu] Dyddiau cynnar
Cafodd ei eni yng Nghasnewydd, Gwent, yn fab i to Irene and a Meyrick Sheen. Roedd y ddau'n gweithio yn rheoli personel. Mae ei dad yn look-alike Jack Nicholson rhan amser llwyddianus.[1][2] Mae gan Michael chwaer ifengach o'r enw Joanne. Magwyd Sheen ym Mhort Talbot, mynychodd Ysgol Gyfun Glan Afan ac ymunodd â Theatr Ieuenctid Cymru yn 16 oed, cyn mynd ymlaen i gael ei hyfforddi yn RADA.
[golygu] Gyrfa
Sefydlodd Sheen ei hun fel un o dalentau ifanc mwyaf gaddawol y sîn theatraidd, yn nodweddiadol, fel Mozart yn drama Peter Shaffer Amadeus, a ymddangosodd ar y llwyfan yn theatr yr Old Vic a cyfarwyddwyd gan Syr Peter Hall. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
[golygu] Bywyd personol
Mae gan Sheen ferch â'i gyn gariad tymor-hir, yr actores Seisnig Kate Beckinsale; ganwyd Lily Mo Sheen ar 31 Ionawr 1999. Daeth y berthynas i ben yn ystod ffilmo Underworld, lle'r oedd y ddau yn serennu, fe adawodd Beckinsale ef ar gyfer cyfarwyddwr y ffilm, Len Wiseman, a priodasont yn ddiweddarach. Yn ddealltadwy, ni ymddangosodd Sheen yn y dilyniant i'r ffilm, heblaw am mewn ôl-fflachiau i'r ffilm gyntaf. Bydd yn serennu yn y drydedd ffilm Underworld, ond nid yw Wiseman yn cyfarwyddo, ni fydd Beckinsale yn serennu chwaith. Ar ôl byw yn yr Unol Daleithiau gyda Beckinsale am gyfnod, dychwelodd i'r Deyrnas Unedig pan ddaeth y berthynas i ben. Mae'r ddau wedi bod yn rhieni ar y cyd i'w merch er yr holl helynt.
Mae Sheen yn gefnogwr hiroes o glwb pêl-droed Swansea City.
[golygu] Ffilmiau/teledu
Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
1993 | Gallowglass | Joe | Ffilm teledu |
1995 | Othello | Lodovico | |
1996 | Mary Reilly | Bradshaw | |
1997 | Wilde | Robbie Ross | |
1998 | Lost in France | Owen | Ffilm teledu |
2002 | Heartlands | Colin | |
2002 | The Four Feathers | Trench | |
2003 | Bright Young Things | Miles | |
2003 | Underworld | Lucian | |
2003 | The Deal | Tony Blair | Ffilm teledu |
2003 | Timeline | Lord Oliver | |
2004 | Laws of Attraction | Thorne Jamison | |
2004 | Dirty Filthy Love | Mark Furness | Ffilm teledu Nomineiddwyd - Actor Gorau BAFTA |
2004 | The Banker | Y Bancwr | |
2005 | Dead Long Enough | Harry Jones | |
2005 | Kingdom of Heaven | Offeiriad | |
2005 | The League of Gentlemen's Apocalypse | Jeremy Dyson | |
2006 | Underworld: Evolution | Lucian | |
2006 | Kenneth Williams: Fantabulosa! | Kenneth Williams | Ffilm teledu |
2006 | The Queen | Tony Blair | Nomineiddwyd - Actor Cefnogol Gorau BAFTA |
2006 | Ancient Rome /The Battle for Rome | Nero | Cyfres deledu 6 rhan |
2006 | HG Wells: War with the World | H. G. Wells | Ffilm teledu |
2006 | Blood Diamond | Simmons | |
2007 | Music Within | Art Honeyman | |
2008 | Frost/Nixon | David Frost | disgwyl rhyddhad |
2009 | Underworld: Rise of the Lycans | Lucian | ffilmio |
The Damned United | Brian Clough | cyn-gynhyrchu |