Mathonwy Hughes
Oddi ar Wicipedia
Bardd a llenor Cymraeg oedd Mathonwy Hughes (1901 - Mai 1999). Ganed ef ym mhlwyf Llanllyfni yng Ngwynedd, yn fab i chwarelwr, Joseph Hughes, a'i wraig Ellen. Roedd Robert Roberts (Silyn) yn ewythr iddo.
Addysgwyd ef yn Ysgol Clynnog. Bu'n olygydd cynorthwyol Baner ac Amserau Cymru o 1949 hyd 1977. Fel ei ewythr, bu'n weithgar iawn gyda Mudiad Addysg y Gweithwyr. Enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1956 am ei awdl Gwraig, a chyhoeddodd nifer o gasgliadau o farddoniaeth ac ysgrifau.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Amell Ganu (1957)
- Corlannau (1971)
- Myfyrion (1973)
- Creifion (1979)
- Dyfalu (1979)
- Awen Gwilym R. (1980)
- Gwin y Gweunydd (1981)
- Atgofion Mab y Mynydd (1982, hunangofiant)
- Chwedlau'r Cynfyd (1983)