Llyfrgellyddiaeth
Oddi ar Wicipedia
Disgyblaeth academaidd sy'n ymwneud â llyfrgelloedd a meysydd gwybodaeth yw llyfrgellyddiaeth. Mae hyn yn cynnwys astudiaeth sut mae adnoddau llyfrgelloedd yn cael eu defnyddio a sut mae pobl yn rhyngweithio gyda systemau llyfrgelloedd. Mae hefyd yn ymchwilio i drefniadaeth gwybodaeth ar gyfer adalwad effeithlon. Mae pynciau sylfaenol llyfrgellyddiaeth yn cynnwys caffaeliad, catalogio, trefniadaeth, a chadwedigaeth deunyddiau llyfrgelloedd.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.