La Trochita
Oddi ar Wicipedia
Rheilffordd sy'n cysylltu taleithiau Chubut a Río Negro yn yr Ariannin yw La Trochita, neu'n swyddogol y Viejo Expreso Patagónico. Mae'n un o reilffyrdd mwyaf deheuol y byd. Roedd wedi ei bwriadu fel rhan o rwydwaith mwy o reilffyrdd, ond ni adeiladwyd y llinellau eraill. Mae'n 402 km o hyd, rhwng trefi Esquel ac Ingeniero Jacobacci.
Enillodd enwogrwydd rhyngwladol yn 1978 pan gyhoeddodd Paul Theroux ei lyfr Saesneg The Old Patagonian Express, ac erbyn hyn mae'n atyniad pwysig i dwristiaid.