Gareth Thomas (chwaraewr rygbi)
Oddi ar Wicipedia
Chwaraewr rygbi'r undeb Cymreig yw Gareth Thomas (ganed 25 Mehefin 1974). Mae wedi enill mwy o gapiau rhyngwladol dros Gymru nag unrhyw chwaraewr arall. Gall chwarae fel cefnwr, canolwr neu asgellwr.
Ganed ef yn Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr. Bu'n chwarae i dîm Pen-y-bont ar Ogwr a Caerdydd cyn dychwelyd i Ben-y-bont ar Ogwr Pan ddechreuodd rygbi rhanbarthol, ymunodd a'r Rhyfelwyr Celtaidd yn nhymor 2003/04. Y tymor wedyn ymunodd a Toulouse, gan ennill Cwpan Heineken gyda hwy yn 2005. In Ionawr 2007 ymunodd a Gleision Caerdydd.
Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru ar 27 Mai 1995 yn erbyn Japan. Ar 26 Mai 2007, torrodd record Gareth Llewellyn trwy ennill ei 93ain cap. Chwaraeodd ei 100fed gêm dros Gymru yn erbyn Fiji yng Nghwpan y Byd, 2007. Nid yw wedi chwarae i Gymru ers hynny. Mae'n dal y record am y nifer uchaf o geisiadau a sgoriwyd i Gymru gyda 40, cyfanswm a gyrhaeddodd Shane Williams hefyd yn ddiweddar.
Teithiodd i Seland Newydd gyda'r Llewod yn 2005, ac wedi i'r capten Brian O'Driscoll gael ei anafu, dewiswyd Thomas yn gapten yn ei le.