Eira
Oddi ar Wicipedia
Ffurfir eira pan mae gwlybaniaeth yn yr awyr yn troi'n grystalau rhew. Dan rai amgylchiadau, gellir cael eirlaw, sef eira yn gymysg a glaw, neu gesair (cenllysg), sef glaw wedi rhewi.
Fel rheol ceir eira yn y rhannau oeraf o'r byd, yn y gogledd ac yn y de. Yn nes i'r cyhydedd, ni cheir eira fel rheol yn yr iseldiroedd, ond ceir eira ar fynyddoedd uchel hyd yn oed yma, er enghraifft ar fynydd Kilimanjaro yn Tanzania ac yn yr Andes yn Ne America.