Edmund Mortimer
Oddi ar Wicipedia
- Mae'r erthygl yma yn cyfeirio at Edmund Mortimer (1376-1409) fu mewn cynghrair gyda Owain Glyndŵr. Am bobl eraill o'r un enw, gweler Edmund Mortimer (gwahaniaethu)
Roedd Edmund Mortimer (9 Tachwedd, 1376 - 1409?) yn ail fab i 3ydd Iarll March a'i wraig Philippa Plantagenet. Fel ŵyr i Lionel o Antwerp, roedd yn ddisgynnydd i Edward III, brenin Lloegr ac yn gefnder i Harri IV, brenin Lloegr. Gan fod taid Edmund yn drydydd mab i Edward III, tra'r oedd tad Harri yn bedwaredd mab iddo, gallai hawlio coron Lloegr.
Ganed Edmund Mortimer yng nhastell Llwydlo. Pan ddechreuodd gwrthryfel Owain Glyndŵr, ymladdodd Mortimer dros Harri IV, ond gorchfygwyd ef gan Owain tng Mrwydr Bryn Glas a'i gymeryd yn garcharor. Nid oedd y brenin ar frys i dalu am ei ryddhau, a gwnaeth Mortimer gytundeb ag Owain, gan briodi ei ferch Catrin. Credir iddynt gael pedwar o blant. Gwnaeth Mortimer ag Owain gytundeb gyda Henry Percy, "Hotspur," i ddiorseddu Harri IV a rhannu'r deyrnas rhyngddynt, y Cytundeb Tridarn. Bu farw Edmund yn ystod gwarchae ar Gastell Harlech gan fyddin dan Harri, mab Harri IV.