Sgwrs:Cymraeg
Oddi ar Wicipedia
Y tabl yn yr erthygl
Beth yw ffynhonell y ffigurau yn y tabl o siaradwyr Cymraeg? Ai y sensys? Ai canran y boblogaeth sy'n gallu deall, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg yw'r ffigurau % yn y tabl? Ai nifer y bobl sy'n gallu deall, siarad, darllen neu ysgrifennu cymraeg yw'r ffigurau poblogaeth yn y tabl? Lloffiwr 13:44, 5 Rhagfyr 2005 (UTC)
Mae golygydd anadnabyddus wedi newid nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i 800,000 heb ffynhonell. Dwi wedi troi'r ffigwr'n ôl i rywbeth mwy ceidwadol (y ffigwr a oedd yno yn barod), ond dylid ychwanegu paragraff i'r testun yn nodi'r anawsterau sy'n codi wrth amcangyfrif y nifer (a'r gwahaniaethau enfawr rhwng y Cyfrifiad, y Welsh Labour Force Survey, poliau gan S4C ac ati). Daffy 23:59, 14 Tachwedd 2006 (UTC)
- Yn cytuno bod angen ysgrifennu nodyn ar hwn. Yn y pen draw rwyn meddwl y bydd yr adran ar niferoedd siaradwyr Cymraeg yn tyfu'n is-erthygl ar fesur niferoedd siaradwyr Cymraeg o gyfrifiad 1891 hyd heddiw. Lloffiwr 15:56, 9 Rhagfyr 2006 (UTC)
[golygu] Gloywi'r erthygl
Credaf fod angen cysondeb o ran defnydd Celteg/Celtaidd ac Indo-Ewropeg/Indo-Ewropeaidd yma. Mae'n well gen i Celteg/Indo-Ewropeg am yr ansoddeiriau yn ogystal â'r ieithoedd unigol - mae'r cyd-destyn yn gwneud yn glir ai un iaith neu deulu o ieithoedd sydd dan sylw.
Rydw i am dynnu'r OC o'r blynyddoedd gan ei fod yn edrych yn chwithlig (does neb yn deud ol-Crist-600), ac mae'n ddi-angen.
Defnyddir "Cymraeg Modern" a "Chymraeg Fodern" yn yr erthygl - mae angen cysondeb. All rhywun gyda mwy o wybodaeth ieithyddol awgrymu pa un sy'n gywir os gwelwch yn dda?
Yn yr adran "Cymraeg ar y we", ceir yr ymadrodd "siopau siarad". A fyddai "fforymau gwe" yn derm well?
Mae angen son am Batagonia yma, yn amlwg, ond dwi'm yn meddwl ei bod yn haeddu mwyafrif paragraff cyntaf yr erthygl. Dwi am symud y rhan fwyaf o hwnnw i'r adran "Hanes siaradwyr, ...y Gymraeg".
Mae angen gwneud rhywbeth ynghylch y frawddeg Yn wir nid yw Cymraeg llafar rhai fawr gwell na brawddegau gramadegol Saesneg ac ambell i air Cymraeg yn lle gair Saesneg. - nid yw hyn osodiad gwyddoniadurol di-duedd. Mae angen mwy o son am gyfraniad dysgwyr i dwf a datblygiad yr iaith yn ogystal.
--Llygad Ebrill 14:38, 8 Mawrth 2007 (UTC)
- Diolch iti am fwrw golwg manwl dros yr erthygl hon.
- Ynglŷn â'r frawddeg am y brawddegau gramadegol Saesneg fe allem ei arall-eirio fel hyn: Mae rhai yn siarad Cymraeg wedi ei gyfansoddi o frawddegau gramadegol Saesneg ac ambell i air Cymraeg yn lle gair Saesneg. Ffaith moel yw hwn heb unrhyw farn yn agos ati - ces afel ar enghraifft ohono p'ddornod pan glywes i'n hunan yn sôn am 'dorri gwair'! OND rhaid dweud nad oes gennyf ffynhonell ysgrifenedig i gyfeirio ati felly dileuaf y frawddeg yn llwyr am nawr. Cawn ddisgwyl i rywun sy'n gwybod rhagor na fi i ehangu'r paragraff hon.
- Dwi wedi gwirdroi'r diwygiadau i deitlau cerddi. Yn ôl y Golygiadur dyfynodau sy'n addas ar gyfer cerddi unigol, caneuon ac alawon. Defnyddir italeiddio fel arfer ar gyfer cerddi epig, cyfrolau o gerddi, dramau, llyfrau, cylchgronau, ffilmiau, rhaglenni teledu a phethau tebyg (Rhiannon Ifans, Y Golygiadur (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Cyf, 2006)).
- Rwyf wedi diwygio Cymraeg Fodern i Cymraeg Modern yn y gobaith mae hwn yw'r dewis cywir!
Lloffiwr 13:10, 11 Mawrth 2007 (UTC)
-
- Diolch am yr ymateb. Mae'n ddrwg gen i am newid teitlau'r cerddi, doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r confensiwn a soniaist amdano. Mae dy frawddeg am bobl yn defnyddio gramadeg Saesneg yn edrych yn gwbl dderbyniol i mi (dim ond yr ymadrodd 'fawr gwell' oedd yn fy mhoeni i yn y fersiwn cynt a deud y gwir). Gyda llaw - beth sy'n bod â 'thorri gwair' yn y Gymraeg? Mae hon yn awgrymu bod gwahanol ystyr i 'ladd gwair' a 'thorri gwair'. Mae 'mam yn gofyn i mi 'olchi fyny' pan mae hi am i mi olchi llestri weithiau :-) Hwyl, --Llygad Ebrill 21:16, 11 Mawrth 2007 (UTC)
-
-
- Rwyf wedi dysgu rhywbeth newydd a difyr heddiw - sef bod 'torri gwair' yn bodoli yn ogystal â 'lladd gwair'. Ond gan nad yw eto'n fis Mehefin ... Lloffiwr 19:34, 12 Mawrth 2007 (UTC)
-
- Mae Lloffiwr wedi gofyn a oes gennyf sylwadau i'w cynnig ar y defnydd o'r termau Indo-Ewropeg/Indo-Ewropeaidd. Dwi wedi arfer defnyddio Indo-Ewropeg fel enw ar yr iaith (ddamcaniaethol) ond Indo-Ewropeaidd am yr ieithoedd sy'n deillio ohoni. Dwi ddim wedi cael amser i edrych ymhob llyfr perthnasol eto (nid bod llawer ohonynt!), ond agorais y gyfrol Y Gwareiddiad Celtaidd i weld be sydd gan D. Ellis Evans i'w ddweud yn ei ysgrif 'Yr Ieithoedd Celtaidd'. Sylwer ar y teitl yn un peth. Mae'n gywir cyfeirio at Indo-Ewropeg a'i chyfnodau, megis Indo-Ewropeg Cyntefig, ond nid yw'r Gymraeg a'r Eidaleg, ac ati, yn "ieithoedd Indo-Ewropeg" gan fod Indo-Ewropeg ei hun yn iaith. Felly mae'r Gymraeg yn iaith Geltaidd ac yn iaith Indo-Ewropeaidd sy'n deillio o'r fam-iaith dybiedig Indo-Ewropeg. Mae Galeg yn un o ieithoedd Celtaidd y cyfandir; dydi hi dim yn un o "ieithoedd Celteg y cyfandir" am nad yw'n bosibl i ddwy neu ragor o ieithoedd gael eu cynnwys mewn iaith arall (dim ond tafodieithoedd sy'n gwneud hynny). Dyna fy nealltwriaeth i o'r sefyllfa, beth bynnag. Gobeithio fod hynny'n gymorth yn y drafodaeth.
- Ail bwynt bach. Fel arfer defnyddir OC o flaen dyddiad lle nad yw'n eglur yn y cyd-destun os ydyw'n ddyddiad Cyn Crist neu Oed Crist : mae gwneud hynny unwaith yn ddigon. Anatiomaros 20:19, 17 Medi 2007 (UTC)
-
- Diolch i Anatiamaros am yr eglurhad. Rwyf finnau wedi bod yn twrio mewn llyfrau hefyd! Mae Geiriadur yr Academi yn dawedog ar y mater o gyfieithu Indo-European yn ansoddair ar y teulu iaith. Yn ddiweddar iawn des ar draws y gwerslyfr coleg Ieithyddiaeth: Agweddau ar Astudio Iaith gan T Arwyn Watkins (Gwasg Prifysgol Cymru, 1961). Mae e'n defnyddio'r ansoddair Indo-Ewropëig i ddisgrifio'r teulu iaith Indo-Ewropeg. Dyma edrych wedyn yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru a chael y canlynol:
- Indo-Ewropaidd, Indo-Ewropeaidd, Indo-Ewropëig [cyfaddasiad o'r Saesneg Indo-Europ(e(an)) + -aidd, -ig] ansoddair. Yn perthyn i'r Indo-Ewropeg neu i'r babl a'i siaradai; yn perthyn i'r teulu o ieithoedd sy'n tarddu o'r Indo-Ewropeg neu i'r bobl sy'n eu siarad: Indo-European
- Indo-Ewropeg enw benywaidd. Mamiaith teulu o ieithoedd a siaredir yn y rhan helaethaf o Ewrop, mewn rhan o orllewin Asia, yn yr India, ac yn Iran: Indo-European (language).
-
- Mae Geiriadur Prifysgol Cymru eu hunain yn sôn am 'IE: Indo-Ewropeg, Indo-Ewropaidd' ar y dudalen byrfoddau!
-
- I'm clust i mae yna chwithdod ac o bosib amwysedd yn codi o ddefnyddio'r ansoddair Indo-Ewropeg i gyfeirio at ieithoedd sy'n perthyn i deulu'r Indo-Ewropeg. Rwyn cytuno gydag Anatiamaros na ddylwn ddefnyddio Indo-Ewropeg fel ansoddair yng nghyd-destun y teulu iaith. Does dim ots gennyf pa ffurf ar Indo-European y dylwn ei ddefnyddio. Lloffiwr 21:00, 22 Medi 2007 (UTC)
-
-
- Diolch i Lloffiwr am y sylwadau diweddaraf. Mae defnyddio Indo-Ewropaidd, Indo-Ewropeaidd neu Indo-Ewropëig fel ansoddair am y teulu o ieithoedd (Indo-European languages) yn fater o ddewis personol :er efallai nad yw'r olaf, Indo-Ewropëig, yn gyffredin iawn erbyn heddiw, maent i gyd yn iawn a safonol. Ond yn bendant dim ond y famiaith sy'n Indo-Ewropeg. Gyda llaw, dwi'n cofio bod rhywrai wedi dadlau dros y term "ieithoedd Indo-Arieg" (neu Indo-Aryeg) am Indo-Aryan languages hefyd. Dwi'n dal i gredu mai Indo-Arieg sy'n iawn am yr iaith/cangen iaith (o Indo-Ewropeg) ond Indo-Ariaidd (Indo-Aryan) am y teulu a'i ieithoedd : pam gael eithriad arbennig yn yr achos hwnnw? Anatiomaros 21:36, 22 Medi 2007 (UTC)
-
-
-
-
- Ydych chi'n cofio lle mae'r drafodaeth ar Indo-Aryeg/Indo-Ariaidd? Dwi'n cofio newid Indo-Iranaidd i Indo-Iraneg yn fy anwybodaeth ar y rhestr Ieithoedd Indo-Ewropeaidd. :-) Oes pwrpas rhoi paragraff am hwn ar y canllawiau iaith (a bwrw bod cytundeb i gael?). Lloffiwr 21:54, 22 Medi 2007 (UTC)
-
-
-
-
- Mae'n ddigon posibl mai am Indo-Iraneg roeddwn i'n meddwl wedi'r cyfan : rhai mod i'n dechrau drysu! Buasai paragraff byr yn y canllawiau yn syniad da mae'n debyg - gellid rhoi dolen i'r sgwrs yma i arbed lle ac amser. Anatiomaros 21:59, 22 Medi 2007 (UTC)
-
[golygu] Arwydd ffordd dwyieithog yn Lloegr
Mae'r golygiad diweddaraf ynglŷn ag arwydd dwyieithog ar draws y ffin yn Lloegr, yn yr ail baragraff, yn ffaith difyr ond dibwys. Beth am ei symud i'r troednodion? Lloffiwr 22:24, 14 Mawrth 2007 (UTC)
- Cytuno. Roedd yn bwynt eithaf dibwys yng nghyd-destun paragraffiadau agoriadol un o'n herthyglau gorau. Wedi ei droi'n droednodyn. Anatiomaros 22:40, 14 Mawrth 2007 (UTC)