Web Analytics

We provide Linux to the World

ON AMAZON:



https://www.amazon.com/Voice-Desert-Valerio-Stefano-ebook/dp/B0CJLZ2QY5/



https://www.amazon.it/dp/B0CT9YL557

We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Wicipedia:Canllawiau iaith - Wicipedia

Wicipedia:Canllawiau iaith

Oddi ar Wicipedia

Canllawiau ac adnoddau ysgrifennu yn Gymraeg ar gyfer Wicipedia.

Pwrpas y canllawiau iaith yw casglu cyngor ac argymhellion ar ysgrifennu Cymraeg cywir er lles cyfranwyr a golygyddion Wicipedia. Crynhoir nodiadau a chynghorion sydd eisoes wedi eu trafod ar Wicipedia ac sydd o ddiddordeb parhaol. Mae hwn hefyd yn gyfle i’r rhai hynny sydd wedi astudio’r Gymraeg rannu eu gwybodaeth â’r rhai ohonom nad ydym wedi astudio'r Gymraeg.

Os cwyd cwestiwn ar fater o arfer iaith mae'r dudalen cymorth iaith ar gael i drafod y cwestiwn.

Gweler hefyd y dudalen ar arddull Wicipedia sy'n cynnwys argymhellion ar arddull Cymraeg addas at ddibenion Wicipedia.

Taflen Cynnwys

[golygu] Nodiadau gramadeg

[golygu] Byrfoddau

[golygu] Cyfeiriadau map

  • Gogledd -- G
  • De -- D
  • Gorllewin -- Gn
  • Dwyrain -- Dn

[golygu] Trefnolion

Y system ugeiniol a ddefnyddir ar gyfer y trefnolion Cymraeg. Mae'r gramadegwyr a'r golygyddion at ei gilydd yn argymell ysgrifennu'r trefnolion yn llawn. Ond os am ddefnyddio byrfodd ar gyfer y trefnol yna defnyddir llythrennau diwethaf y rhan o'r rhif sy'n llai na chant, e.e. 131ain, sef yr unfed ar ddeg ar hugain wedi'r cant.

Byrfodd Trefnol Byrfodd Trefnol
1af cyntaf 11eg unfed ar ddeg
2il ail 12fed deuddegfed
3ydd/3edd trydydd/trydedd 13eg trydydd/trydedd ar ddeg
4ydd/4edd pedwerydd/pedwaredd 14eg pedwerydd/pedwaredd ar ddeg
5ed pumed 15fed pymthegfed
6ed chweched 16eg unfed ar bymtheg
7fed seithfed 17eg ail ar bymtheg
8fed wythfed 18fed deunawfed
9fed nawfed 19eg pedwerydd/pedwaredd ar bymtheg
10fed degfed 20fed ugeinfed
       
37ain ail ar bymtheg ar hugain 50fed hanner canfed
157ain ail ar bymtheg a deugain wedi'r cant 160fed trigeinfed wedi'r cant
1277ain ail ar bymtheg a thrigain wedi'r fil a dau gant 1280fed pedwar ugeinfed wedi'r fil a dau gant
1,000,000fed miliynfed    

[golygu] Morffoleg y Gymraeg

[golygu] Marw

Sylwer nad oes ffurf gryno o'r amser gorffennol o'r ferf marw yn yr iaith safonol. Ni ellir dweud Marwodd ***** ddydd Iau diwethaf. Dylid dweud Bu ****** farw ddydd Iau diwethaf neu Bu farw ****** ddydd Iau diwethaf.

[golygu] Cystrawen y Gymraeg

[golygu] John Smith was a rugby player from Cardiff

Mae gan ddysgwyr dueddiad i gyfieithu brawddeg fel "John Smith was an author from Cardiff" yn llythrennol e.e. "John Smith oedd nofelydd o Gaerdydd". Mae hyn yn gwbwl estron i'r Gymraeg. Yr hyn ddylid ei ddweud yw "Nofelydd o Gaerdydd oedd John Smith" neu "Roedd John Smith o Gaerdydd yn nofelydd".

[golygu] O a materion cysylltiedig

Defnyddir yr arddodiad 'o' i gyfleu (ymhlith pethau eraill):

  1. symudiad oddi wrth rhywle - enw + o + lle, e.e. ymfudodd Dafydd o Gymru i America.
  2. man cychwyn neu darddiad - enw + o + lle, e.e. Sieffre o Fynwy, Catherine o Aragon, Gwilym o Normandi.
  3. nifer - nifer + o + enw, e.e. llwyth o orennau.

Ystyr yr ymadrodd 'brenin o Ffrainc' yn Saesneg yw a king from France.

Cyfleir y genidol (bod rhywbeth yn perthyn i rywbeth arall) trwy osod y ddau enw ochr yn ochr, e.e. cath Mari, sef y gath sy'n perthyn i Mari (the cat of Mary). Defnyddir y genidol mewn teitl i ddisgrifio bod rhywun yn frenin, dyweder, ar rhywle (king of somewhere), e.e. brenin Lloegr, Archesgob Caergaint.

[golygu] O a theitlau pobl

Defnyddir y ffurfiau 'y brenin Arthur', 'yr Archesgob Williams', 'yr Arlywydd Bush' yn Gymraeg ar gyfer teitlau (lle ceir King Arthur, Archbishop Williams, President Bush yn Saesneg).

Weithiau mae angen rhoi disgrifiad manylach. Os oes angen mynegu enw a swyddogaeth a thiriogaeth yna defnyddir yr ymadrodd - enw, swyddogaeth + lle - yn Gymraeg, e.e. Elizabeth II, brenhines y DU; Bush, arlywydd UDA; Rowan Williams, archesgob Caergaint (lle ceir Queen Elizabeth II of the UK; President Bush of the USA; Archbishop Rowan Williams of Canterbury yn Saesneg).

Weithiau adnabyddir rhywun yn ôl y lle mae'n hanu ohono, e.e. William Williams Pantycelyn, Owain Glyndŵr, Catrin o'r Berain (neu Catrin o Ferain), Edward o Dŷ Efrog. Sylwer bod modd cynnwys y gair Tŷ pan fo amwyster ystyr – gallai Edward o Efrog olygu Edward sydd wedi dod o ddinas Efrog yn hytrach nag Edward sy'n perthyn i (Dŷ) Efrog (ond sylwer mai Edward, Dug Efrog yw enw ail fab Elizabeth II).

[golygu] Enwau ar bobloedd

Mae dau ffordd o ddisgrifio cenedl yn Gymraeg; e.e. i gyfleu Welsh athletes gellir dweud:

  • Athletwyr o Gymry
  • Athletwyr o Gymru

Mae mantais i'r ail ddewis wrth ddisgrifio pobl sy'n dod o wlad ag enw diarth neu gymhleth megis St Kitts, Ynys Ascension, h.y. athletwyr o St Kitts, athletwyr o Ynys Ascension.

Gellir hefyd ddisgrifio athletwyr sy'n dod o Gymru fel 'athletwyr Cymru' wrth gyfeirio atynt i gyd fel un grŵp. Mae'r gystrawen hon yn addas ar gyfer teitlau categorïau.

[golygu] Defnydd Cymreig, Cymraeg, Cymro

Dylid defnyddio'r gair 'Cymreig', 'Seisnig', ayb i ddisgrifio cenedligrwydd (yn perthyn i Gymru neu i genedl y Cymry) heblaw am yn achos iaith a phobl, e.e. 'gwisg Gymreig', 'y wasg Gymreig' (y wasg sy'n delio â materion Cymreig, trwy gyfrwng y Saesneg neu'r Gymraeg).

Felly mae 'pobl o dras Cymreig' yn gywir - mae Cymreig yn disgrifio 'tras'. Ond nid 'athletwr Cymreig' - 'athletwr o Gymro' yw'r ymadrodd naturiol Gymraeg. Gweler yr adran 'Enwau ar bobloedd' am ragor o wybodaeth.

Defnyddir 'Cymraeg', 'Ffrangeg', ayb i ddisgrifio iaith, e.e. 'nofel Ffrangeg' i ddisgrifio nofel a ysgrifenwyd yn y Ffrangeg, 'y wasg Gymraeg' i ddisgrifio'r wasg sy'n cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.

[golygu] Adnoddau iaith

[golygu] Gramadegau

  • Elfennau Gramadeg Cymraeg, Stephen J Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, 1959) (ddim ar gael)
  • Cywiriadur Cymraeg, Morgan D Jones (1965)
  • Cystrawen y Frawddeg Gymraeg, Melvill Richards (1970) (ddim ar gael)
  • Cyflwyno'r Iaith Lenyddol, Yr Uned Iaith Genedlaethol, (D. Brown a'i Feibion, 1994) - yn trafod y gwahaniaethau rhwng Cymraeg cyfoes a Chymraeg llenyddol (ddim ar gael)
  • Gramadeg y Gymraeg, Peter Wynn Thomas, (Gwasg Prifysgol Cymru, 2006)
  • Y Treigladur, D Geraint Lewis (Gwasg Gomer, 1993) - llyfr anhepgor, hawdd ei ddefnyddio
  • Treigladau - gwefan yn rhoi crynodeb byr o'r treigladau (y wefan ar waith o hyd)

[golygu] Geiriaduron

  • Geiriadur Prifysgol Cymru, 1950-2002 Gwasg Prifysgol Cymru – geiriadur llenyddol a'r mwyaf cynhwysfawr ar gyfer y Gymraeg.
  • Geiriadur yr Academi, 2003, Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones (goln) – geiriadur cynhwysfawr Saesneg–Cymraeg.
  • Y Termiadur goln Delyth Prys, JPM Jones ac eraill (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru, 2006) – geiriadur Cymraeg–Saesneg a Saesneg-Cymraeg ar gyfer ysgolion hyd at oedran 19. Rhoddwyd hwn ar y we gan Ganolfan Bedwyr - Y Termiadur ar y we.
  • Cysgliad (ar gryno ddisg) - gweler http://www.bangor.ac.uk/cysgliad - Cynhwysir sawl un o'r termiaduron ar y ddisg. Cynhwysir hefyd rhaglen cysill i wirio sillafu a gramadeg Cymraeg.
  • Geiriadur Gomer i'r Ifanc 1994, D. Geraint Lewis, Gwasg Gomer – geiriadur Cymraeg–Cymraeg
  • Y Geiriadur Mawr 2003, HM Evans a WO Thomas (goln), Gwasg Gomer - geiriadur Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg mewn un gyfrol
  • Collins Spurrell Welsh Dictionary 1991, HarperCollins
  • Cyfres Enwau Creaduriaid a Phlanhigion 1: Creaduriaid Asgwrn-Cefn, Cymdeithas Edward Llwyd (Gwasg y Lolfa, 1994)
  • Geiriadur y BBC ar y we - mae hwn yn cynnig geiriadur Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg a hefyd gwirydd treigladau syml sy'n gwirio treiglad enw+ansoddair
  • Geirfâu Berwyn Prys Jones ar wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
  • Lecsicon Saesneg-Cymraeg Mark Nodine
  • Eurfa - geiriadur Kevin Donnelly yn cynnwys ffurfiau treigledig a berfol
  • Cronfa enwau planhigion ar wefan Llên y Llysiau - Cymdeithas Edward Llwyd

[golygu] Termiaduron yn y sector gyhoeddus

[golygu] Bathu a safoni termau

[golygu] Idiomau Cymraeg

  • Y Geiriau Bach, Cennard Davies (1998)
  • Poster Idiomau Cymraeg A2, Acen (2007)
  • Torri'r Garw, Cennard Davies (1996)
  • Geiriadur Idiomau, goln A.R. Cownie ac Wyn G. Roberts (Geiriadur Prifysgol Cymru, 2001)
  • Idiomau Cymraeg: y Llyfr Cyntaf R.E. Jones, (Tŷ John Penri, 1987)
  • Ail Lyfr o Idiomau Cymraeg, RE Jones, (Tŷ John Penri, 1997)
  • Idiomau Ar-lein, www.learnons4c.co.uk (2008)

[golygu] Arall

Static Wikipedia 2008 (March - no images)

aa - ab - als - am - an - ang - ar - arc - as - bar - bat_smg - bi - bug - bxr - cho - co - cr - csb - cv - cy - eo - es - et - eu - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - frp - fur - fy - ga - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - jbo - jv - ka - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - ms - mt - mus - my - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nn - -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -
https://www.classicistranieri.it - https://www.ebooksgratis.com - https://www.gutenbergaustralia.com - https://www.englishwikipedia.com - https://www.wikipediazim.com - https://www.wikisourcezim.com - https://www.projectgutenberg.net - https://www.projectgutenberg.es - https://www.radioascolto.com - https://www.debitoformativo.it - https://www.wikipediaforschools.org - https://www.projectgutenbergzim.com