Armes Prydein
Oddi ar Wicipedia
Cerdd Gymraeg y credir ei bod yn dyddio o'r 10fed ganrif yw Armes Prydein ("Y broffwydoliaeth am Brydain").
Ceir y gerdd yn Llyfr Taliesin, llawysgrif sy'n dyddio o ail hanner y 13eg ganrif. Mae'n sôn am gynghrair rhwng y Cymry, Llychlynwyr Dulyn, y Gwyddelod, y Cernywiaid a gwŷr Ystrad Clud. Proffwydir buddugoliaeth fawr iddynt yn erbyn y Saeson, gyda Cynan a Chadwaladr yn eu harwain, a lladdfa fawr yn Aber Peryddon. Mae sôn am ddyrchafu lluman Dewi Sant ac am yrru'r Saeson o Ynys Brydain.
-
- Dygorfu Kymry y peri kat
- a llwyth lliaws gwlat a gynnullant
- A lluman glan Dewi a drychafant
- y tywyssaw Gwydyl trwy lieingant.
- A gynhon Dulyn genhyn y safant
- pan dyffont yr gat nyt ymwadant.
- gofynnant yr Saesson py geissyssant
- pwy meint eu dylyet or wlat a dalyant ...
Ymddengys i'r gerdd gael ei chyfansoddi yn ystod teyrnasiad Hywel Dda. Gall fod cysylltiad rhwng y gerdd a Brwydr Brunanburh yn 937, pan orchfygodd Athelstan, brenin y Sacsoniaid Gorllewinol, fyddin cynghrair rhwng Olaf III Guthfrithson, brenin Llychlynnaidd Dulyn, Causantín mac Áeda II, brenin yr Alban ac Owain, brenin Ystrad Clud. Ni chofnodir i'r Cymry gymeryd rhan yn y frwydr. Polisi Hywel Dda oedd cydweithredu ag Athelstan. Awgrymwyd y gallai'r Armes fod wedi ei chyfansoddi rywbryd cyn y frwydr hon, gan un o ddeiliaid Hywel nad oedd yn cytuno â'i bolisi.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Ifor Williams Armes Prydein o Lyfr Taliesin: gyda rhagymadrodd a nodiadau (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1955)