Andrew Jackson
Oddi ar Wicipedia
Yr Arlywydd Andrew Jackson | |
Delwedd:Andrew Jackson.jpeg |
|
Cyfnod yn y swydd 4 Mawrth 1829 – 4 Mawrth 1837 |
|
Is-Arlywydd(ion) | John C. Calhoun (1829-1832), Martin van Buren (1833-1837) |
---|---|
Rhagflaenydd | John Quincy Adams |
Olynydd | Martin van Buren |
|
|
Geni | 15 Mawrth, 1767 Waxhaw, De Carolina, UDA |
Marw | 8 Mehefin, 1845 Nashville, Tennessee, UDA |
Plaid wleidyddol | Democrat |
Priod | Rachel Donelson Robards Jackson |
Andrew Jackson (15 Mawrth, 1767 - 8 Mehefin, 1845) oedd seithfed arlywydd yr Unol Daleithiau (1829 - 1837). Cafodd ei eni yn nhref Waxhaw, De Carolina.
Yn 1796 cafodd ei ethol yn Aelod o Gynhadledd yr Unol Daleithiau ac yn 1798 cafodd ei wneud yn farnwr. Ond gwnaeth ei enw fel milwr yn y 1810au yn ymladd lluoedd Prydain Fawr a brodorion Americanaidd y De. Cafodd ei lysenwi'n "Gyllell Finiog" gan y brodorion am iddo a'i filwyr ladd rhai miloedd o frodorion o lwythau'r Cherokees, y Chickasaws, y Chocktaws, y Creeks ac yn arbennig y Seminoles; i'r Americanwyr gwyn ei lysenw oedd "Hen Hicori".
O 1821 hyd 1823 roedd yn llywodraethwr Fflorida ac yn 1823 cafodd ei ethol i Senedd yr Unol Daleithiau. Cafodd ei ethol yn arlywydd yn 1828, y Democrat cyntaf i ddal y swydd honno. Rhoddodd heibio'r arlywyddiaeth yn 1837.
Jackson oedd un o'r cyntaf i dderbyn a hyrwyddo'r cysyniad o Dynged Amlwg, sef bod yr Unol Daleithiau ifanc yn dynghededig i ymestyn ei ffiniau a rheoli'r rhan fwyaf o Ogledd America.
Bu farw ym 1845 yn 78 oed yn Nashville, Tennessee.
Arlywyddion Unol Daleithiau America | |
---|---|
Washington | J Adams | Jefferson | Madison | Monroe | JQ Adams | Jackson | Van Buren | W Harrison | Tyler | Polk | Taylor | Fillmore | Pierce | Buchanan | Lincoln | A Johnson | Grant | Hayes | Garfield | Arthur | Cleveland | B Harrison | Cleveland | McKinley | T Roosevelt | Taft | Wilson | Harding | Coolidge | Hoover | F Roosevelt | Truman | Eisenhower | Kennedy | L Johnson | Nixon | Ford | Carter | Reagan | GHW Bush | Clinton | GW Bush |