Afon Gambia
Oddi ar Wicipedia
Afon yng ngorllewin Affrica yw Afon Gambia. Mae'n un o afonydd mwyaf y rhan yma o Affrica, 1,130 km (700 milltir o hyd) o'i tharddiad ar ucheldir Fouta Djallon yng ngogledd Gini i'w haber gerllaw dinas Banjul yn Y Gambia. Mae'n llifo tua'r gogledd, yna yn troi tua'r gorllewin trwy Sénégal. Yn rhan isaf yr afon mae'r tir ar ddwy lan yr afon yn ffurfio gwlad Y Gambia.