Afon Colorado (Ariannin)
Oddi ar Wicipedia
Afon yn rhan ddeheuol yr Ariannin yw Afon Colorado (Sbaeneg: Río Colorado). Ystyrir fod yr afon yma yn ffurfio ffîn ogleddol Patagonia.
Ceir tarddle'r afon yn yr Andes, lle gelwir hi y río Barrancas. Mae y Río Grande yn ymuno a hi i ffurfio'r Colorado, ac mae'n llifo tua'r de-ddwyrain i gyrraedd Cefnfor Iwerydd. Hyd 1914 roedd y Colorado yn tarddu o lyn mawr oedd wedi ei ffurfio gan rewlif, ac a elwid gan y Mapuche wrth yr enw Cari Lauquen, ond yn y flwyddyn honno torrodd y morraine oedd yn cadw'r dŵr i mewn o ganlyniad i ddaeargrynfeydd, a diflannodd y llyn.
Wedi gadael yr Andes mae'r afon yn ffurfio dyffryn cul. Ffurfia'r afon y ffîn rhwng taleithiau Mendoza a Neuquén ac yna rhwng taleithiau La Pampa a Río Negro. Mae wedyn yn llifo trwy ran ddeheuol Talaith Buenos Aires i gyrraedd y môr; ystyrir y darn bychan o'r dalaith honno sydd i'r de o'r afon yn rhan o Batagonia.