See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Tlodi - Wicipedia

Tlodi

Oddi ar Wicipedia

Bachgen sy'n byw mewn slwm sbwriel yn Jakarta, Indonesia yn dangos be mae o wedi ffeindio
Bachgen sy'n byw mewn slwm sbwriel yn Jakarta, Indonesia yn dangos be mae o wedi ffeindio

Tlodi yw'r cyflwr pan fo unigolyn neu gymuned yn cael ei amddifadu o'r hyn a ystyrir yn hanfodol er mwyn mwynhau y safon byw isaf sy'n dderbyniol i gymdeithas a'r bodlonrwydd sy'n dod gyda hynny. Mae diffinio 'tlodi' yn anodd, ac yn amrywio o wlad i wlad, ond cytunir yn gyffredinol fod hanfodion bywyd yn cynnwys adnoddau elfennol fel cael digonedd o fwyd, dŵr sy'n ddiogel i'w yfed, a chysgod rhag yr elfennau; at hyn gellid ychwanegu adnoddau cymdeithasol fel mynediad at wybodaeth, addysg, gofal iechyd, statws cymdeithasol, llais mewn gwleidyddiaeth, a'r cyfle i gyfathrebu'n ystyrlon â phobl eraill a chwarae rhan mewn cymdeithas.

Gellid diffinio 'tlodi' mewn termau cymhariaethol yn ogystal, e.e. gwahaniaeth mewn incwm neu gyfoeth, ac mae cyflwr tlodi yn cael ei gysylltu â phethau fel diffyg dosraniad adnoddau a grym. Yn aml mae gwahanol wladwriaethau a chyrff yn defnyddio eu mynegeion penodol eu hunain i ddiffinio'r ffin rhwng tlodi a safon byw derbyniol.

Gall tlodi cael ei weld yn nhermau tlodion fel grŵp, ac yn yr ystyr yma mae sawl cenedl yn cael ei hystyried yn "dlawd": term mwy niwtral a derbyniol heddiw yw "gwledydd sy'n datblygu". Er bod tlodi ar ei waethaf a'i amlycaf i'w gael yn y byd sy'n datblygu, neu'r "trydydd fyd", ceir rhywfaint o dlodi ymhob gwlad a rhanbarth o'r byd bron. Yn ngwledydd datblygiedig y Gorllewin mae hyn yn cynnwys grwpiau difreintiedig fel pobl ddigartref a getos.

Mewn termau crefyddol mae 'tlodi' yn aml wedi bod yn llw crefyddol, yn gyflwr a dderbynnir yn wirfoddol, e.e. gan fynachod.

[golygu] Gweler hefyd

   Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -