Seine-Maritime
Oddi ar Wicipedia
Un o départements Ffrainc, yn rhanbarth Haute-Normandie yng ngogledd-orllewin y wlad ar lan Môr Udd, yw Seine-Maritime. Ei phrifddinas weinyddol yw dinas hanesyddol Rouen. Enwir y département ar ôl Afon Seine, sy'n llifo trwyddo ar ran olaf ei thaith i'r môr. Mae Seine-Maritime yn ffinio â départements Somme, Oise, ac Eure.
Mae'r prif drefi yn cynnwys:
- Dieppe
- Le Havre
- Rouen