See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Kazan’ - Wicipedia

Kazan’

Oddi ar Wicipedia

Kazan'
Gweriniaeth Tatarstan
Lleoliad Kazan'
[[Delwedd:|100px|left]] [[Delwedd:|100px|right]]
Daearyddiaeth
Arwynebedd 425.2 km²
Uchder uwchben lefel y môr m
Demograffeg
Poblogaeth (Cyfrifiad 2002) 1,105,289
Poblogaeth (amcangyfrif 2005) 1,110,000
Gwleidyddiaeth
Maer İlsur Metşin


Prifddinas Gweriniaeth Tatarstan a'r ddinas wythfed fwyaf Rwsia o ran poblogaeth yw Kazan' (Rwsieg Казань / Kazan', Tatareg Qazan, Mari Osun). Lleolir yn nwyrain Rwsia Ewropeaidd, ar aber Afon Volga ac Afon Kazanka, 800km i'r dwyrain o Moskva.

Taflen Cynnwys

[golygu] Hanes

Tebygir i'r ddinas gael ei sefydlu ym 1005 gan Fwlgariaid y Volga. Er nad oes tystiolaeth eglur am ddyddiad ei sefydlu, mae tystiolaeth archaeolegol yn awgrymu i safle kremlin y ddinas gael ei anheddu yn yr unfed ganrif ar ddeg. Mae'r cyfeiriad cyntaf at y ddinas mewn brut yn dyddio i 1177. Fel rhan o'r Llu Euraidd, daeth Kazan' yn ganolfan fasnachol a gwleidyddol o bwys. Ar ôl cwymp y Llu Euraidd, roedd yn brifddinas i Khanaeth Kazan a ffurfiwyd ym 1437 neu 1438. Ar ôl brwydr i gadw ei hannibyniaeth yn erbyn Rwsia, cipiwyd gan y Rwsiaid o dan Ifan IV ym 1552. Cafodd ei difrodi'n ddifrifol yn ystod Gwrthryfel Pugachev ym 1774. Yn y bedwaredd ganrif ar ddeg daeth yn ganolfan addysg gyda sefydliad Prifysgol Wladwriaethol Kazan ym 1804. Bu Lenin yn astudio yn y brifysgol yn y 1880au a'r 1890au. Ers cwymp yr Undeb Sofietaidd, mae'r ddinas wedi diwygio: agorwyd system metro ym mis Awst 2005, a chwplhawyd mosg mwyaf Rwsia Qolsharif o fewn kremlin Kazan yn yr un flwyddyn.

[golygu] Poblogaeth

Mae poblogaeth y ddinas yn gymysgedd bron cyfartal o Rwsiaid a Tatariaid.

[golygu] Pensaernïaeth

Ychwanegwyd Kremlin Kazan' at restr Safleodd Treftadaeth y Byd UNESCO ym 2000. Mae Mosg Qolsharif yn ei dominyddu.

[golygu] Addysg

Mae Prifysgol Wladwriaethol Kazan ymysg prifysgolion hynaf Rwsia. Llofnodwyd ei siarter sefydlu gan Tsar Alexander I ar 5 / 17 Tachwedd 1804. Roedd y matemategydd Nikolay Lobachevsky yn rheithor o'r brifysgol o 1827 tan 1846, pryd chwaraeodd y brifysgol rôl bwysig mewn datblygiad geometreg ddi-Ewclidaidd. Dafganfuwyd yr elfen rwtheniwm yn Kazan gan Karl Klaus ym 1844, ac roedd y brifysgol yn flaenllaw yn hanes cemeg organig diolch i waith Aleksandr Butlerov, Nikolay Zinin a Vladimir Markovnikov. Gweithiodd yr ieithydd Jan Baudouin de Courtenay, a ddyfeisiodd cysyniad y ffonem, yn Kazan o 1874 tan 1883. Ymysg cyn-fyfyrwyr enwog Prifysgol Kazan y mae'r nofelydd Lev Tolstoy, y gwleidydd a chwyldroadwr Vladimir Lenin a'r bardd Velimir Khlebnikov.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -