Esperanto
Oddi ar Wicipedia
Yr iaith artiffisial fwyaf llwyddiannus a dylanwadol yw Esperanto. Mae ganddi fwy o siaradwyr nag unrhyw iaith artiffisial arall. Daw'r enw o'r ffugenw "Dr Esperanto", a ddefnyddid gan ddyfeisiwr yr iaith L. L. Zamenhof. Ystyr yr enw yn yr iaith Esperanto yw "yr un sy'n gobeithio".
Iddew o Bialystock a symudodd i fyw yn Warsaw oedd Zamenhof. Cyhoeddodd y gyfrol gyntaf ar yr iaith, "Unua Libro", yn 1887 ar ôl gweithio arno am ryw ddeng mlynedd. Nod Zamenhof oedd cynorthwyo pobloedd yr holl fyd i ddeall ei gilydd yn well. Nid oedd yn bwriadu i Esperanto ddisodli unrhyw iaith arall ond yn hytrach i fod yn ail iaith ryngwladol a niwtral
Mae cefnogwyr Esperanto yn gweld dwy brif fantais i'r iaith. Maen nhw hawlio ei bod yn hawdd iawn i'w dysgu, a mae hwn yn amlwg. Nid yw'n perthyn i unrhyw grŵp cenedlaethol neu ethnig yn fwy nag i unrhwy grŵp arall. Mae pob iaith ryngwladol arall wedi lledaenu oddiwrth un grŵp ethnig (megis y Saeson a'r Americanwyr yn achos Saesneg, neu'r Ffrancod yn achos Ffrangeg).
[golygu] Geiriau
Sut mae? | Saluton | |
Hwyl fawr | Ĝis la revido | |
Cymru am byth! | Vivu Kimrio! | |
Rhowch imi | Donu al mi | |
gwrw | biero | |
os gwelwch yn dda | mi petas | |
ac | kaj | |
yn gyflym! | rapide! | |
[golygu] Llyfrau Cymraeg ar Esperanto
- G. Griffiths, Agoriad i'r iaith gyd-genedlaethol Esperanto (Lerpwl, c.1910) ; ail argraffiad wedi ei ddiwygio gan y Canon W.H. Harris, Agoriad neu Allwedd i'r iaith gyd-genedlaethol Esperanto (1956).
- J.C. Wells, Geiriadur Esperanto / Kimra Vortaro (Llundain, 1985).