Aderyn-Drycin Manaw
Oddi ar Wicipedia
Aderyn-Drycin Manaw | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Aderyn-Drycin Manaw (chwith) gydag Aderyn-Drycin Du (de)
|
||||||||||||||
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Puffinus puffinus (Brünnich, 1764) |
Mae Aderyn-Drycin Manaw (Puffinus puffinus) yn aelod canolig o ran maint o'r teulu Procellariidae o adar môr. Fe'i gelwir yn Aderyn-Drycin Manaw oherwydd fod nifer fawr yn nythu ar y Calf of Man, ynys fechan gerllaw Ynys Manaw, ar un adeg. Gostyngodd y niferoedd yn sylweddol yno oherwydd effaith llygod mawr, er eu bod yn cynyddu bellach ar ôl difa'r llygod.
Mae'r rhywogaeth yma yn nythu ar hyd glannau rhan ogleddol Môr Iwerydd, yn enwedig ar ynysoedd; gydag ynysoedd Cymru yn un o'u cadarnleoedd. Amcangyfrifwyd yn 1997-8 fod 102,000 o barau yn nythu ar Ynys Skomer oddi ar arfordir Sir Benfro, yn ôl pob tebyg y nifer mwyaf yn y byd, gyda 46,000 arall yn nythu ar Ynys Skokholm. Mae nifer fawr hefyd yn nythu ar Ynys Enlli.
Ers tua 1970 maent wedi dechrau nythu ar hyd arfordir gogledd-ddwyreiniol Gogledd America hefyd. Maent yn nythu mewn tyllau, gan ddodwy un ŵy gwyn. Dim ond yn y nos y mae'r rhieni yn dod i'r tir, i osgoi adar ac anifeiliad rheibus, yn enwedig gwylanod. Maent yn paru am oes. Yn y gaeaf maent yn mudo i Dde America, i aeafu ger arfordir Brasil a'r Ariannin, pellter o dros 10,000 km.
Mae'r aderyn yn 30-38 cm o hyd a 76-89 cm ar draws yr adenydd, gyda chefn du a bol gwyn. Fel eraill o'r teulu mae ganddo ddull nodweddiadol o hedfan, gan ddal yr adenydd yn llonydd am gyfran helaeth o'r amser wrth hedfan yn isel dros y tonnau. Gellir gweld niferoedd mawr ohonynt yn mynd heibio'r arfodir yn yr hydref. Mae'n bwydo ar bysgod bychain ac anifeiliad bychain eraill.
Gallant fyw yn eithriadol o hir. Yn 2003-04 ystyrid Aderyn-Drycin Manaw oedd yn nythu ar Ynys Copeland yng Ngogledd Iwerddon y aderyn gwyllt hynaf yn y byd. Cafodd ei fodrwyo ym mis Gorffennaf 1953 pan oedd eisoes yn bump oed o leiaf, ac erbyn mis Gorffennaf 2003 yr oedd o leiaf 55 oed. Credir bod aderyn arall a fodrwywyd ar Ynys Enlli yn 1957 wedi teithio dros 8 miliwn km (5 miliwn o filltiroedd) yn ystod ei fywyd hyd yma; roedd yr aderyn yma yn dal yn fyw yn 2004.