William Morris Hughes
Oddi ar Wicipedia
Bu William Morris Hughes, mwy adnabyddus fel Billy Hughes (25 Medi, 1862 - 28 Hydref, 1952) yn brif weinidog Awstralia o 1915 hyd 1923.
Ganed ef yn Llundain i rieni Cymreig; roedd ei dad, William Hughes, o Gaergybi a'i fam o Lansanffraid-ym-Mechain. Wedi marwolaeth ei fam pan oedd yn saith oed, bu'n byw gyda chwaer ei dad yn Llandudno, a gyda theulu ei fam yn Sir Drefaldwyn, lle dysgodd siarad Cymraeg.
Ymfudodd i Awstralia yn Hydref 1884. Agorodd siop a bu'n weithgar gyda'r undebau llafur. Yn 1901 etholwyd ef i'r Senedd dros y Blaid Lafur yn etholaeth Gorllewin Sydney. Daeth yn Brif Weinidog yn Hydref 1915, ynghanol y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu rhwyg gyda charfan o'r Blaid Lafur, a ffurfiodd Hughes a'i gefnogwyr ei blaid ei hun, y Blaid Genedlaethol, a enillodd etholiad 1917, gyda Hughes yn parhau yn Brif Weinidog. Yn 1919 cynrychiolodd Awstralia yn y trafodaethau a arweiniodd at Gytundeb Versailles; dywedir ei fod yn sgwrsio yn Gymraeg a David Lloyd George. Ymddiswyddodd yn Chwefror 1923.