Tom Macdonald
Oddi ar Wicipedia
Tom Macdonald (1900-1980), newyddiadurwr a nofelydd.
Daeth ei dad, a oedd yn dincer o dras Wyddelig, i ymgartefi yn Llanfinahgel Geneu’r Glyn (Llandre), a treuliodd Tom ei blentyndod cynnar yma cyn i’r teulu synud i Ben-y-Garn ac wedyn i Bow Street.
Addysgwyd yng Ngoleg y Brifysgol, Aberystwyth, cyn iddo ddechrau ar yrfa fel newyddiadurwr a golygydd papur newydd am ddeugain mlynedd yn Lloegr, Tsieina, Awstralia a De Affrica. Dychwelydodd i Gymru ym 1965 i ymddeol.
Cyhoeddodd chwe nofel yn Saesneg wedi eu lleoli yng Nghymru - Gareth the Ploughman (1939); (a gyfieithwyd i’r Gymraeg gan Nansi Griffiths fel Croesi’r Bryniau (1981); The Peak (1941), Gate of Gold (1946); The Black Rabbit (1948), How Soon Hath Time (1950); a The Song of the Valley (1951).
Hefyd ysgrifennodd ddwy nofel Gymraeg Y Nos Na Fu (1974) a Gwanwyn Serch (1982), a gyhoeddwyd ar ôl iddo farw, a chyfrol o atgofion o dan y teil Y Tincer Tlawd (1971), a oedd yn gyfieithiad o The White Lanes of Summer (1975). Mae hon yn gyfrol o atgofion am ei blentyndod yn Llanfinahgel Geneu’r Glyn (Llandre), Pen-y-Garn a Bow Street yn ystod y blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-1918).
[golygu] Llyfryddiaeth
MacDonald, Tom (1975). The White Lanes of Summer. Macmillan, London. ISBN 0333-17975-7