Tinwen y Garn
Oddi ar Wicipedia
Tinwen y Garn | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Oenanthe oenanthe (Linnaeus, 1758) |
Aderyn bychan o deulu'r Muscicapidae yw Tinwen y Garn (Oenanthe oenanthe); yn flaenorol ystyrid ei fod yn aelod o deulu'r bronfreithod, y Turdidae. Mae'n rywogaeth cyffredin iawn yn Ewrop a rhannau o Asia. Mae'n 14½–16 cm o hyd, fymryn yn fwy na Robin Goch. Daw'r enw o'r darn gwyn uwchben y gynffon, rhywbeth sy'n amlwg iawn wrth i'r aderyn hedfan i ffwrdd.
Mae Tinwen y Garn yn aderyn mudol, yn symud tua'r de i Affrica yn y gaeaf. Ar dir agored y mae'n nythu, yn enwedig lle mae cerrig neu greigiau. Yng Nghymru, mae'n aderyn nodweddiadol o'r ucheldiroedd; er enghraifft mae'n nythu bron hyd at gopaon mynyddoedd uchaf Eryri.