SuperTed
Oddi ar Wicipedia
SuperTed | |
---|---|
Fformat | Cyfres animeiddiedig |
Crewyd gan | Mike Young |
Lleisiau | Derek Griffiths Melvyn Hayes Roy Kinnear Jon Pertwee Victor Spinetti Sheila Steafel |
Adroddwyd gan | Peter Hawkins |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Iaith/Ieithoedd | Cymraeg, Saesneg |
Nifer y Penodau | 36 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 10 munud |
Darllediad | |
Sianel Gyntefig | S4C |
Darllediad gwreiddiol | {{{darllediad_gwreiddiol}}} |
Cysylltiadau allanol | |
Gwefan swyddogol | |
Proffil IMDb | |
Proffil TV.com |
Cyfres deledu Cymraeg wedi ei hanimeiddio yw SuperTed, ai ddarlledwyd am y tro cyntaf ar 1 Tachwedd 1982. Cynhyrchwyd gan gwmni Siriol ar gyfer S4C (lle gafodd ei ddybio'n Gymraeg), ac yn ddiweddarach, darlledwyd yn y Saesneg gwreiddiol ar BBC1, ac wedi ei ddybio yng Ngwyddeleg ar gyfer TG4. Enillodd y gyfres amryw o wobrwyau, gan gynnwys BAFTA ar gyfer yr animeiddio gorau yn 1987.
Creadigaeth Mike Young ydy SuperTed, mae Young yn gweithio yn California, yr Unol Daleithiau erbyn hyn, ynghyd a'i wraig, Liz. Crewyd SuperTed fel stori amser gwely ar gyfer ei lys-fab, a oedd yn ofn y tywyllwch. Ail-adroddodd ei lys-fab y straeon pan gyrrhaeddodd yr ysgol feithrin a dechreuwyd gyrf newydd Young.[1]
Taflen Cynnwys |
[golygu] Stori
Mae pob pennod o'r gyfres yn dechrau gyda hanes sut daeth SuperTed i fod yn fyw: Roedd yn arth mewn ffactri degannau a ganfwyd i fod yn ddiffygol cyn gael ei daflu i storfa yn yr islawr. Darganfyddodd dyn Smotiog ef yno a daeth ag ef i fywyd gyda'i "lwch hudol". Yn ddiweddarach, cymerwyd ef at Mam Natur a rhoddwyd pŵerau hudol iddo a oedd yn ei alluogi i gwffio yn erbyn drwg. Mae'r drwg fel arfer yn dod ar ffurf Dai Texas (cowboi drwg) a'i gang; Bulk (enw Cymraeg?) (ffŵl tew) a Sgerbwd (sgerbwd anfarwol sy'n gwisgo sliperipinc. Mae cynllwyniau Dai Texas fel arfer yn bwriadu cynyddu ei gyfoeth, rheoli'r byd a'r pŵer drost neu ddinistrio SuperTed.
Gweithredir pŵerau SuperTed gan "air hud cyfrinachol", mae SuperTed yn ei sibrwd pob tro mae ef neu rhywun arall mewn trafferth, ac mae'n trawsnewid i wisg coch tegyg i Superman, gyda rocedi ar waelod ei esgidiau sy'n ei alluogi i hedfan.
[golygu] SuperTed yn America
Yn 1984, SuperTed oedd y gyfres cartŵn Prydeinig cyntaf iw chael ei ddarlledu ar The Disney Channel yn yr Unol Daleithiau. Walt Disney Home Video subsequently released all 36 episodes on six videocassettes.
Adfywyd SuperTed yn yr Unol Daleithiau gan Hanna Barbera yn 1992 (a ddarlledodd Fantastic Max hefyd, un o weithiau eraill Mike Young), y tro yma odan y teitl The Further Adventures of Superted. Dim ond Jon Pertwee a ddychwelodd o'r cst gwreiddiol i leisio cymeriad Smotyn. Cymerodd y gyfres newydd fformat mwy epig, gan rhanu'r straeon yn aml rhwng ddau bennod. Mae sawl cnaf newydd yn ymuno yn y stori a cafwyd wared ar y gerddoriaeth wreiddiol o ffafr rhywbeth mwy dramatig. Cysidrwyd y gyfred hon o SuperTed i fod o safon gwael a pharhaodd hi ond un tymor, ond nid yw'n glir pam.
[golygu] Ffilm Gwasanaeth Cyhoeddus
Ymddangosodd SuperTed mewn Ffilm Gwasanaeth Cyhoeddus, ynghyd a Smotyn, a'i chwaer Blotch(?). Comisiynwyd y ffilm gan y Swyddfa Gwybodaeth Canolog, gyda'r teitl "Supersafe with SuperTed", yddi hedfanodd SuperTed 3 cymeriad i'r ddaear, er mwyn dysgu i Smotyn sut i groesi'r ffordd yn ddiogel.