Richard Bryn Williams
Oddi ar Wicipedia
Llenor, bardd, hanesydd a dramodydd oedd Richard Bryn Williams neu R. Bryn Williams (1902 - 1981), a aned ym Mlaenau Ffestiniog yn yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd).
Aeth a'i rieni i fyw yn Nhrelew yn Chubut, Patagonia, pan yn fachgen saith mlwydd oed. Dychwelodd i Gymru yn 1923 ac astudiodd yn Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru. Daeth yn arbenigwr ar hanes Y Wladfa ac yn gyfranwr mawr i lenyddiaeth y dalaith honno.
Cefnogai'r Eisteddfod Genedlaethol a chystadlu ynddi. Enillodd y Gadair yn 1964 a 1968 a bu'n archdderwydd o 1975 hyd 1978. Mae bron y cyfan o'i waith yn adlewyrchu bywyd y Wladfa a'i hanes. Roedd yn awdur toreithiog.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Gwaith llenyddol
[golygu] Llyfrau plant
- Straeon Patagonia (1944)
- Y March Coch (1954)
- Bandit yr Andes (1956)
- Croesi'r Paith (1958)
- Yn Nwylo'r Eirth (1967)
- Y Rebel (1969)
- Agar (1973)
- Y Gwylliaid (1976)
[golygu] Barddoniaeth
- Pentewynion (1949)
- Patagonia (1965)
- O'r Tir Pell (1972)
[golygu] Dramâu
- Pedrito (1947)
- Cariad Creulon (1970)
- Dafydd Dywysog (1975)
[golygu] Hanes, astudiaethau a llyfrau eraill
- Cymry Patagonia (1942)
- Eluned Morgan: bywgraffiad a detholiad (1945)
- Y Wladfa (1962)
- Gwladfa Patagonia 1865-1965 (1965)
- Atgofion o Batagonia (1980)
- Crwydro Patagonia (1960). Arweinlyfr.
- Taith i Sbaen (1949). Llyfr taith.
- Teithiau Tramor (1970). Llyfr taith.
- Prydydd y Paith (1983). Hungofiant (cyhoeddwys ar ôl ei farwolaeth).