Pioden
Oddi ar Wicipedia
Pioden | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Pica pica (Linnaeus, 1758) |
Mae'r Bioden (Pica pica) yn aelod o deulu'r brain. Mae'n aderyn cyffredin trwy Ewrop, rhan helaeth o Asia, a gogledd-orllewin Affrica. Mae nifer o is-rywogaethau, ac mae rhai o'r farn y dylai rhai ohonynt, er enghraifft P. p. sericea o Corea, gael eu hystyried fel rhywogaethau ar wahân.
Gellir adnabod y Bioden yn hawdd, gyda'i phlu du a gwyn a'r gynffon hir. Mae'r pen, gwddf a bron yn ddu gyda gwawr wyrdd, a'r adenydd a'r gynffon hefyd yn ddu, gyda'r gweddill o'r aderyn yn wyn. Mae yn 40-51cm o hyd. gyda'r gynffon yn 20-30cm o hyd. Mae'r alwad hefyd yn tynnu sylw. Yn aml gwelir nifer o'r adar yma gyda'i gilydd, er nad ydynt yn casglu'n heidiau mawr.
Gall y Bioden fwyta bron unrhyw beth, yn cynnwys anifeiliaid wedi marw ac wyau neu gywion adar eraill, ond mae hefyd yn bwyta grawn. Mae wedi manteisio ar y nifer o anifeiliaid marw ar ochrau'r ffyrdd. Adeiledir y nyth mewn coeden. Mae'r nyth yn wahanol i nythod y rhan fwyaf o deulu'r brain gan fod tô arno, gyda twll i fynd i mewn ar un ochr.
Mae'r Bioden yn aderyn cyffredin iawn yng Nghymru, ac mae ei nifer wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf.