Peter Benenson
Oddi ar Wicipedia
Peter Benenson (31 Gorffennaf 1921 - 25 Chwefror 2005) sefydlodd Amnest Rhyngwladol yn 1961 ar ôl darllen erthygl am garcharu dau fyfyriwr ym Mhortiwgal a oedd wedi rhoi llwnc destun i 'Ryddid'.
Ymgyrch blwyddyn oedd ganddo mewn golwg i ddechrau ond fe dyfodd yn fudiad gyda mwy na 1.8 miliwn o aelodau erbyn heddiw
Roedd yn ŵyr i Grigori Benenson, bancwr Rwsieg-Iddewig ac yn fab i Flora a John Solomon.
Ar ôl cael gwersi preifat gan W H Auden cafodd ei addysg yn Eton a Phrifysgol Rhydychen. Mor ifanc a 16 mlwydd oed bu'n ymgyrchu yn ei ysgol am gefnogaeth i helpu plant amddifad gweriniaethwyr Rhyfel Cartref Sbaen.
Peidiodd Benenson a bod yn arweinydd Amnest ar ôl i ymchwiliad annibynnol fethu a chadarnhau ei gred fod heddlu cudd Prydeinig yn dod yn aelodau o'r mudiad.