Pan (duw)
Oddi ar Wicipedia
- Am y lloeren sy'n cylchdroi Sadwrn, gweler Pan (lloeren).
Roedd Pan (Groeg, Πάν, y cyfan) yn dduw ym mytholeg Roeg. Roedd ganddo dorso a phen dynol gyda chlustiau, cyrn a choesau gafr.
Roedd Pan yn cael ei addoli yn arbennig yn Arcadia, er nad oedd temlau mawr iddo yn yr ardal. Roedd yn dduw coedwigoedd, caeau a phreiddiau, ffrwythlonrwydd a gwrywdod. Dywedir ei fod yn ymlid y nymffod yn y coedydd, gan obeithio cael cyfathrach rhywiol â hwy. Mewn rhai ffyrdd mae'n debyg i'r duw Dionisus ac roedd yn aml yng ngwmni'r duw hwnnw.
Roedd hefyd yn dduw yr awel, y wawr a'r machlud. Yr oedd yn byw gyda'r nimffod mewn ogof o'r enw Coriciana ar fynydd Parnassus. Gallai broffwydo'r dyfodol ac roedd yn heliwr a cherddor. Canai'r Siringa neu Bibellau Pan.
Cyn Brwydr Marathon dywedir fod y rhedwr Athenaidd Pheidippides yn rhedeg trwy'r mynyddoedd rhwng Athen a Sparta i ofyn cymorth y Spartiaid yn erbyn y Persiaid. Ar y ffordd cafodd weledigaeth o'r duw Pan, a ddaroganodd fuddugoliaeth i'r Groegwyr yn erbyn Persia. Wedi ennill y frwydr gwnaeth yr Atheniaid Pan yn un o'u prif dduwiau mewn diolchgarwch.
Yn ôl yr hanesydd Groegaidd Plutarch (Moralia, Llyfr 5:17)), yr oedd llongwr o'r enw Thamus ar ei ffordd tua'r Eidal yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Rhufeinig Tiberius. Ger ynys Paxi clywodd lais dros y tonnau "Thamus, wyt ti yna? Pan gyrhaeddi Palodes, gwna'n siwr dy fod yn cyhoeddi fod y duw mawr Pan wedi marw". Gwnaeth Thamus yn ôl y gorchymyn, a daeth ochneidiau a galaru o'r lan yn ymateb.