Mechain
Oddi ar Wicipedia
Cantref yn nheyrnas Powys oedd Mechain. Roedd yn un o gantrefi mwyaf deniadol y deyrnas honno ac ymhlith ei ffrwythlonaf. Gorweddai bron iawn yng nghanol yr hen Bowys. Ffiniai â chantref Caereinion i'r de, dau gwmwd Mochnant i'r gogledd, ac rhan o gantref Deuparth, cwmwd Deuddwr ac Ystrad Marchell i'r dwyrain.
Rhedai Afon Cain trwy ei ganol. Afon Efyrnwy oedd ei derfyn naturiol yn y de. Roedd yn gantref llawn coed a meysydd frwythlon, tir porfa braf a digon o bysgod ac anifeiliaid gwyllt fel ceirw i'w hela.
Rhennid y cantref yn ddau gwmwd a elwid yn Fechain Uwch Coed a Mechain Is Coed am fod coedwig anferth yng nghanol Mechain. Safai llys y cantref ar lan Afon Cain fymryn i'r dwyrain o Lanfyllin ar safle a elwir Tomen Gastell heddiw, o fewn ychydig o filltiroedd o ganolfan eglwysig Llanfechain a'i heglwys gysegredig i Sant Garmon. Y brif ganolfan eglwysig fodd bynnag oedd Meifod, a sefydlwyd gan Tysilio Sant, fab Brochwel Ysgithrog, brenin Powys ar ddiwedd y chweched ganrif. Yno ceid clas gydag awdurdod dros sawl egwlys lai, gan gynnwys Llanfair Caereinion. Yno ym Meifod y cleddid tywysogion Powys tan y 12fed ganrif a dyfodiad yr abatai Sistersaidd.
Ar ôl i deyrnas Powys ymrannu daeth Mechain yn rhan o dreftadaeth Owain ap Madog fel un o gantrefi Powys Fadog. Yn y 14eg ganrif bu ymrafael rhwng yr arglwydd Normanaidd John Charlton a Gruffydd de la Pole, un o ddisgynyddion Owain Cyfeiliog, am feddiant Mechain.
Cysylltir y brydyddes ganoloesol Gwerful Mechain â'r cantref, fel y mae ei henw barddol yn awgrymu.