Manouba
Oddi ar Wicipedia
Mae Manouba neu La Manouba (Arabeg منوبة) yn dref yng ngogledd-orllewin Tunis (prifddinas Tunisia) a phrif dref y dalaith lywodraethol (gouvernorat) o'r un enw.
Creuwyd bwrdeistref La Manouba ar 23 Mehefin 1942. Heddiw mae'n un o fwrdeistrefi hynaf Tunis Fwyaf. Mae Manouba yn ardal dda ei fyd, gydag ysgolion a chyfleusterau eraill o safon uchel.
[golygu] Daearyddiaeth
Yn y dwyrain mae Manouba yn ffinio â bwrdeistref Den Den, yn y gogledd â bwrdeistref Douar Hicher, yn y gorllewin â bwrdeistref Oued Ellil ac yn y de â dinas (municipalité) Tunis a Chamlas Medjerda-Cap Bon.
[golygu] Enwogion
Ganwyd y gantores Latifa Arfaoui ym Manouba yn 1961 a chafodd ei haddysg gynradd yn ysgol Sidi Omar.